Rydym yn awyddus i gysylltu busnesau ac ysgolion cynradd…

We are looking to connect businesses with primary schools… Find out more

Cwestiynau a ofynnir yn aml – Ysgolion

Beehive

Pam ddylai ein hysgol fabwysiadau’r rhaglen Gwenyn y Coed Mêl?

Mae’r adnoddau wedi eu hariannu’n llawn a byddant yn cefnogi athrawon i gyflwyno gweithgareddau diddorol a chyffrous sydd yn addas ar gyfer amrywiaeth o feysydd dysgu o fewn y cwricwlwm. Byddwch hefyd yn elwa o sesiwn gyflwyno a 3 gweithgaredd yn y dobsarth yn ymdrin â thema o’ch dewis (tua 45 munud yr un). Beth bynnag fo’ch amserlen ddysgu, mae’r adnoddau’n ddigon hyblyg i gael eu hintegreiddio yn ôl y galw neu fel rhan o raglen fwy strwythuredig o wythnos i wythnos.

Beth yw’r anfanteision? Ydy hwn yn bendant yn rhad ac am ddim?

Does dim. Y mae’r adnoddau ar gael i’r ysgol. Mae ein rhaglen partneriaeth ymgysylltu corfforaethol unigryw yn golygu ein bod yn adnabod cwmnïau lleol/cenedlaethol sy’n fodlon rhoi cefnogaeth ariannol ar gyfer yr adnoddau i ysgol (ion) yn eu rhanbarth. Mae’r busnes yn talu am yr adnoddau (y gellir eu defnyddio ar draws yr ysgol) yn ogystal â nwyddau ar gyfer 1 dosbarth (30 o blant) a 3 sesiwn drwy gydol y flwyddyn. Gall yr ysgol neu bartner busnes ddewis prynu adnoddau a sesiynau ychwanegol os oes angen.

Pwy sydd wedi datblygu’r adnoddau?

Mae’r adnoddau wedi’u datblygu gan addysgwyr proffesiynol profiadol ac arweinwyr menter er mwyn sicrhau cydbwysedd da o ofynion y cwricwlwm a gofynion sgiliau’r dyfodol. Treialwyd yr adnoddau gyda 15 o ysgolion cynradd cyn cyflwyno ein rhaglen Partneriaethau Corfforaethol.

Ar gyfer pa grŵp oedran mae’r adnoddau’n addas?

Mae’r adnoddau wedi eu targedu ar gyfer oedrannau 5-8 ond gellir eu defnyddio ar gyfer rhai iau /hŷn yn dibynnu ar alluoedd pobl ifanc.

Ydy’r adnoddau’n cysylltu â’r cwricwlwm?

Rydym wedi gwneud cysylltiadau priodol â meysydd dysgu a phrofiad yn ogystal â Phedwar Diben y Cwricwlwm i Gymru, fel y gall athrawon nodi’r adnoddau mwyaf addas i fodloni eu deilliannau dysgu. Gellir chwilio am yr adnoddau trwy lyfr stori, sgil a meysydd dysgu yn ogystal â nifer o gategorïau eraill.

Sut ydw i’n defnyddio’r adnoddau yn fy ystafell ddosbarth/ysgol?

Mae’r rhaglen wedi ei chreu i’w hintegreiddio’n hawdd i unrhyw strwythur a sefydlwyd neu sy’n datblygu. Bydd Tîm Menter 2B yn ymweld â’ch ysgol i gyflwyno’r rhaglen i’r athrawon ac i drafod yr opsiynau i’w defnyddio. Rydym hefyd yn rhannu enghreifftiau o arfer wych ar ein cyfryngau cymdeithasol ac yn ein cylchlythyron – felly rhowch wybod i ni sut mae Gwenyn y Coed Mêl yn cael ei ddefnyddio ar draws ein cymuned o ysgolion.

A ellir addasu’r adnoddau i siwtio galluoedd fy nosbarth?

Gellir. Bydd pob cynllun gwers yn cynnwys argymhellion i’r rhai o alluoedd cymysg er nwyn i chi allu addasu yn dibynnu ar anghenion eich dosbarth.

Sut mae cyrchu’r adnoddau ar-lein?

Gellir cyrchu’r adnoddau trwy wefan www.2benterprising.co.uk. Gallwch chwilio drwy’r adnoddau gan ddefnyddio ffilterau categori a bydd angen manylion mewngofnodi a ddarperir i bob ysgol i’w lawrlwytho. Gallwch lawrlwytho adnoddau unigol neu ‘gasgliadau’ i sicrhau bod gennych gynllun gwers a gweithgareddau perthnasol mewn un ymweliad. Os nad ydych yn ysgol gofrestredig, gallwch barhau i gael mynediad at y Pecyn Sampl i athrawon a detholiad o adnoddau AM DDIM i chi eu defnyddio yn yr ystafell ddosbarth neu adref.

Pwy sy’n cyflwyno’r sesiynau gweithgaredd?

Rydym yn cyflogi addysgwyr proffesiynol i gyflwyno’r sesiynau – pob un ohonynt â phrofiad o weithio mewn amgylchedd ystafell ddosbarth ac wedi’u hyfforddi’n llawn i gyflwyno rhaglen Gwenyn y Coed Mêl. Mae’r holl staff wedi’u cofrestru gyda EWC ac mae ganddynt wiriadau CRB cyfredol.

Pa fath o sesiynau gweithgaredd ydych chi’n eu cyflwyno?

Y sesiwn gweitharedd gyntaf yw ein gweithgaredd ‘Rhwydweithio Melys’ lle rydym yn annog pobl ifanc i ymgyfarwyddo â chyflwyno eu hun a siarad am eu cryfderau/uchelgais. Mae gennym ddetholiad o sesiynau gweithgaredd eraill i ddewis ohonynt ac fe’u trafodir gyda’r athro cyn yr ail a’r trydydd sesiwn er mwyn i ni allu cyd-fynd â themâu neu feysydd penodol.

Faint o ddisgyblion all gymryd rhan yn y sesiynau gweithgaredd?

Mae’r sesiynau gweithgaredd wedi eu cynllunio ar gyfer tua 30 o ddisgyblion.

Pa mor hir yw’r sesiynau gweithgaredd?

Mae’r sesiynau gweithgaredd rhwng 45 munud ac 1 awr.

A ellir cyflwyno’r sesiynau ar-lein?

Gellir. Mae yna ddetholiad o weithgareddau y gellir eu cynnig ar-lein. Rydym hefyd yn cynnal sesiynau galw heibio rheolaidd ar-lein i athrawon sy’n dymuno ymgyfarwyddo â’r rhaglen, gofyn cwestiynau neu rannu syniadau gyda chymuned ysgol gynradd Gwenyn y Coed Mêl.

Pwy sy’n talu am yr adnoddau?

Telir am yr adnoddau gan eich Partner Ymgysylltu Corfforaethol. Rydym yn adnabod busnesau sydd am ymgysylltu â’u cymuned leol gyda chynnig gwerthfawr ac rydym yn cysylltu ysgol gyda busnes lleol neu genedlaethol i greu’r Rhaglen Bartneriaeth.

A allaf brynu adnoddau ychwanegol fel llyfrnodau, hadau, jariau mêl, bandiau arddwrn?

Cewch. Rydym yn darparu digon ar gyfer hyd at 30 o ddisgyblion ond gellir prynu adnoddau am gost i ymestyn y rhaglen i ddosbarthiadau eraill.

Can I purchase additional delivery sessions?

Yes. We provide 3 sessions as part of the core programme, however if you would like additional sessions – please speak to a member of our team or email info@2benterprising.co.uk.

A oes unrhyw gyfyngiadau ar ddefnyddio ein partner corfforaethol?

Mae’r partneriaethau a grëwyd i gyd yn unigryw. Mae hwn yn gyfle i gysylltu â busnes sydd â diddordeb mewn datblygu sgiliau pobl ifanc felly rydym yn gobeithio y bydd y cysylltiad yn mynd y tu hwnt i raglen Gwenyn y Coed Mêl. Wrth gwrs, chi sydd i benderfynu sut yr ydych yn eu cynnwys mewn unrhyw weithgarwch y tu hwnt i’n hymgysylltiad ni ond rydym yn mawr obeithio y byddwch yn cael gwerth ychwanegol o’r bartneriaeth.

A oes rhaid i ni ddarparu unrhyw dystiolaeth o ddefnyddio’r adnoddau?

Nac oes. Byddem wrth ein bodd pe bai pob ysgol yn defnyddio’r adnoddau mor aml â phosib ond sylweddolwn hefyd fod yna lu o raglenni eraill sy’n ymdrin â phynciau gwahanol sydd angen eu hamserlennu er mwyn sicrhau cyllid a chefnogaeth fusnes flwyddyn ar ôl blwyddyn. Byddai’n fuddiol rhoi adborth i’ch Partner Ymgysylltu Corfforaethol ynghylch y modd rydych yn defnyddio’r adnoddau a pha mor werthfawr ydynt i’ch ysgol.

Faint o ysgolion eraill sy’n cymryd rhan?

Rydym bellach yn gweithio gyda mwy na 130 o ysgolion cyrnadd ledled y DU. Mae’r nifer hwn yn cynyddu’n wythnosol.

A allwn gysylltu â chi gydag unrhyw gwestiwn pellach unrhyw bryd?

Cewch. Er ein bod yn dîm bach, mae wastad rhywun yn y swyddfa a all helpu neu ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych. Rydym yn croesawu unrhyw adborth ac awgrymiadau ar gyfer adnoddau ychwanegol a allai fod yn ddefnyddiol i chi a’ch cydweithwyr. Cysylltwch ar info@2benterprising.co.uk neu ffoniwch 01792 277694.

A yw’r adnoddau ar gael mewn unrhyw iaith arall?

Mae’r holl adnoddau wedi eu cynhyrchu’n ddwyieithog fel bod ysgolion cyfrwng Cymraeg yn elwa o’r rhalgen ar yr un pryd ag ysgolion cyfrwng Saesneg. Byddwn yn ymchwilio i gyfieithu rhaglen Gwenyn y Coed Mêl i ieithoedd erail yn y dyfodol agos.

A ellir cyflwyno’r sesiynau gweithgaredd yn Gymraeg?

Gellir. Mae gennym staff dwyieithog sydd yn cyflwyno’r sesiynau Cyflwyniad a Gweithgaredd mewn ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg.

A allaf gyfeirio ysgol neu athro arall?

Gellir, rydym yn annog yr ysgolion a’r athrawon rydym yn gweithio gyda nhw i gyfeirio’r rhaglen Gwenyn y Coed Mêl at sylw eu ffrindiau a’u cyfoedion. Bydd ein cyflwyno ni i ysgol newydd yn golygu y gallwch dderbyn detholiad o adnoddau rhaglen ychwanegol fel gwobr i’ch ysgol chi.

Beth fydd yn digwydd y flwyddyn nesaf?

Gobeithiwn y byddwch yn mwynhau’r rhaglen ac am barhau i fod yn rhan o deulu Gwenyn y Coed Mêl. Gobeithiwn y bydd eich Partner Corfforaethol yn parhau i ddarparu cefnogaeth flynyddol i’ch ysgol, ond os bydd angen byddwn yn gweithio gyda chi i ddod o hyd i bartner arall i ariannu’r adnoddau. Mae pob blwyddyn o gefnogaeth yn golygu derbyn set o lyfrau stori NEWYDD SBON ac adnoddau ar gyfer y dosbarth, yn ogystal â sesiwn ddiweddaru i athrawon a thair sesiwn gweithgaredd.