Rydym yn awyddus i gysylltu busnesau ac ysgolion cynradd…

We are looking to connect businesses with primary schools… Find out more

Frequently Asked Questions – Businesses

Beehive

Faint fydd pris y rhaglen Gwenyn y Coed Mêl a beth mae e’n ei gynnwys?

Pris y rhaglen yw £1148 + TAW i bob ysgol gynradd sy’n ymrwymo am 12 mis. Mae hyn yn cynnwys set o lyfrau, dros 120 o adnoddau digidol a chwch gwenyn yn llawn o adnoddau da ar gyfer athrawon a hyd at 30 o ddisgyblion. Mae’r ffi flynyddol yn cynnwys 3 sesiwn o weithgareddau sydd wedi eu cynllunio i gyflwyno athrawon i’r rhaglen ac maent hefyd yn cynnig sesiynau sgiliau menter diddorol a chyffrous gyda disgyblion.

Ble mae’r rhaglen Gwenyn y Coed Mêl ar gael?

Ar hyn o bryd mae’r cynllun ar gael ar draws y DU ond rydym yn archwilio’r posibiliadau o ehangu’n ddaearyddol fanteision y cynllun. Cysylltwch, os gwelwch yn dda, os oes gennych ddiddordeb mewn ehangu mynediad i’r ddarpariaeth.

Sut rydym yn dewis ysgol bartneriaeth?

Efallai yr hoffech ddewis ysgol sydd yn agos iawn i’ch busnes neu efallai yr hoffech gynnig yr opsiwn i gleintiaid/gweithwyr enwebu ysgol sydd yn bwysig iddyn nhw. Ar yr amod na chefnogir yr ysgol gan fusnes arall a’i bod â diddordeb mewn derbyn y rhaglen, yna gallwn weithio gyda nhw.

Fedrwn ni ddewis cefnogi a phartneru gyda mwy nag un ysgol?

Cewch. Rydym yn croesawu busnesau sydd am ddewis mwy nag un ysgol er mwyn lledu manteision eu cefnogaeth mewn modd sy’n cael effaith gadarnhaol ar fwy o fywydau ifanc.

Beth sy’n digwydd pan fyddwn ni wedi dethol ysgol/ion?

Cyn gynted ag y byddwch wedi dewis ysgol byddwn yn cysylltu â’r Pennaeth er mwyn cyflwyno’r rhaglen (os nad ydynt eisoes yn gyfarwydd â ni) gan roi gwybod iddynt eu bod wedi llwyddo i sicrhau partneriaeth. Yna rydyn ni’n bwcio eu sesiwn gweithgaredd gyntaf sydd yn gyfle i ni esbonio’r rhaglen i’r athrawon a’ch cyflwyno chi a’ch busnes.

Faint o amser sydd ei angen er mwyn ymrywymo i’r rhaglen?

Mae’r tîm menter 2B wedi ymrwymo i ddarparu 3 sesiwn y flwyddyn a hoffem gynrychiolydd o’ch sefydliad chi hefyd i ymuno. Mae pob sesiwn yn para tua. 45 munud – 1 awr ond does dim disgwyl i chi fynychu pob sesiwn. yddwn wastad yn sicrhau bod eich ysgol bartner yn gwybod pwy sydd wedi eu cefnogi. Pe baech yn dymuno cynnig manteision eraill, e.e. ymweliadau ysgol, byddem yn sicr yn eich annog i wneud hynny.

Faint o bobl sy’n gallu mynychu pob sesiwn o’n cwmni ni?

Byddem yn argymell mwyafswm o 2 berson o’r cwmni.

Beth disgwylir i ni ei wneud pan ydym yn ymweld â’r ysgol?

Does dim disgwyl dim ond bod yn bresennol a chyflwyno’ch hun i’r athrawon/disgyblion. Byddai’n wych pe baech hefyd yn gallu cyflwyno’r busnes ac esbonio ‘r rolau a’r sgiliau sydd eu hangen i weithio yn eich diwydiant. Mae’r bobl ifanc hefyd wrth eu bodd pan fo ymwelwyr yn cymryd rhan yn y gweithgaredd… ond rydym yn addo peidio â gwneud i neb wisgo gwisg Glenda Gwenyn (oni bai eu bod WIR eisiau).

Byddem yn hoffi cefnogi ysgol Gymraeg ond dydyn ni ddim yn gallu siarad Cymraeg, ydy hyn yn broblem?

Dim o gwbl! Bydd y tîm darparu dwyieithog yn sicrhau eich bod yn dal i deimlo’n rhan o’r broses ac yn ymgymryd ag unrhyw waith cyfieithu sydd ei angen yn ystod y sesiwn.

Beth sydd angen i ni fod yn ymwybodol ohono wrth ymweld â’r ysgol?

Mae pob ysgol yn wahanol felly mae’n bwysig mynd i bob ymweliad gyda meddwl agored. Mae rhai ysgolion yn dal i gynnal rheoliadau llym er mwyn lleihau lledaeniad firysau felly rydym yn annog ymwelwyr i wneud profion llif unffordd/peidio ag ymweld os nad ydynt yn teimlo’n iach. Dewch â mygydau gyda chi, diheintydd a chadewch ddigon o bellter cymdeithasol lle bo modd. Y mae ein staff yn derbyn gwiriad CRB a bydd wastad aelod o staff yn bresennol yn yr ystafell yn ystod y sesiynau. Mae’n bosib y bydd cyfyngu ar dynnu lluniau a bydd angen i’r ffotograffau gael eu cymeradwyo gan staff cyn eu cyhoeddi. Gallwch fod yn dawel eich meddwl y bydd ein staff yn eich briffio cyn unrhyw ymweliad ag ysgol ac os oes unrhyw gwestiynau gennych ar unrhyw adeg – croeso i chi gysylltu â info@2benterprising.co.uk neu ffoniwch 01792 277694.

Beth sy’n digwydd os na allwn ymweld?

Deallwn nad yw bob amser yn bosibl mynychu gweithgaredd. Rhowch wybod i’r Rheolwr Gweithrediadau drwy e-bost- mo@2benterprising.co.ukos nad ydych yn gallu mynychu neu’n anfon rhywun arall yn eich lle. Bydd y gweithgaredd yn dal i fynd ymlaen fel a gynlluniwyd.

Sut gallwn ni gael cyhoeddusrwydd o’r cyfle hwn?

Mae gennym nifer o sianeli cyfryngau cymdeithasol sy’n cael eu defnyddio gan ysgolion cynradd a ninnau i rannu’r gwaith gwych sydd yn cael ei wneud drwy’r rhaglen The Bumbles of Honeywood. Yn dibynnu ar y lefel o gefnogaeth yr ydych yn ymrwymo iddi, gallwn gynnig cyfleoedd ar gyfer cysylltiadau cyhoeddus arbennig a gwahoddiadau i ddigwyddiadau i wneud y mwyaf o’ch cyfranogiad.

Ym mha ffyrdd eraill y gallwn gefnogi’r ysgol gynradd?

Y mae’r partneriaethau a grëwyd yn unigryw ac rydym wedi gweld nifer o ysgolion cynradd yn ymweld â safleoedd partner i weld gweithrediadau drostynt eu hunain neu wedi clywed am gynrychiolwyr cwmnïau’n cael eu gwahodd i ysgolion cynradd i ‘feirniadu’ cystadlaethau. Maen nhw hefyd wedi mynd ymlaen i noddi timau chwaraeon neu blannu coed. Rydym yn eich annog i wneud beth bynnag y gallwch i wneud y mwyaf o’r berthynas a’i gwneud mor unigryw â’r bobl rydych yn eu cefnogi.

A gaf i gyfeirio busnes arall a allai ddymuno cefnogi ysgol?

Cewch! Byddem yn croesawu’n fawr gyflwyniadau i fusnesau sydd ag ethos tebyg i ni a’n partneriaid presennol. Rydym eisiau gweithio gyda sefydliadau gwahanol sydd wedi ymrwymo i wneud newidiadau a chefnogi pobl ifanc gyda chyfleoedd sydd fel arfer ond yn eu cyflwyno eu hunain yn hwyrach mewn bywyd. Os gwelwch yn dda, dywedwch wrthynt am gysylltu drwy info@2benterprising.co.uk.

A gaf i enwebu ysgol gynradd a allai elwa o’r rhaglen Gwenyn y Coed Mêl?

Cewch! Byddem yn croesawu cael ein cyflwyno i ysgolion cynradd a fyddai’n elwa yn eich barn chi. E-bostiwch wybodaeth at info@2benterprising.co.uk