Pam ddylai ein hysgol fabwysiadau’r rhaglen Gwenyn y Coed Mêl?
Mae’r adnoddau wedi eu hariannu’n llawn a byddant yn cefnogi athrawon i gyflwyno gweithgareddau diddorol a chyffrous sydd yn addas ar gyfer amrywiaeth o feysydd dysgu o fewn y cwricwlwm. Byddwch hefyd yn elwa o 3 gweithgaredd yn y dosbarth yn trafod thema o'ch dewis chi (tua 45 munud yr un). Beth bynnag fo’ch amserlen ddysgu, mae’r adnoddau’n ddigon hyblyg i gael eu hintegreiddio yn ôl y galw neu fel rhan o raglen fwy strwythuredig o wythnos i wythnos.
Pwy sydd wedi datblygu’r adnoddau?
Mae’r adnoddau wedi’u datblygu gan addysgwyr proffesiynol profiadol ac arweinwyr menter er mwyn sicrhau cydbwysedd da o ofynion y cwricwlwm a gofynion sgiliau’r dyfodol. Treialwyd yr adnoddau gyda 15 o ysgolion cynradd cyn cyflwyno ein rhaglen Partneriaethau Corfforaethol.
Ydy’r adnoddau’n cysylltu â’r cwricwlwm?
Rydym wedi gwneud cysylltiadau priodol â meysydd dysgu a phrofiad yn ogystal â Phedwar Diben y Cwricwlwm i Gymru, fel y gall athrawon nodi’r adnoddau mwyaf addas i fodloni eu deilliannau dysgu. Gellir chwilio am yr adnoddau trwy lyfr stori, sgil a meysydd dysgu yn ogystal â nifer o gategorïau eraill.
A ellir addasu’r adnoddau i siwtio galluoedd fy nosbarth?
Cewch. Bydd pob cynllun gwers yn cynnwys argymhellion i’r rhai o alluoedd cymysg er nwyn i chi allu addasu yn dibynnu ar anghenion eich dosbarth.
Pwy sy’n cyflwyno’r sesiynau gweithgaredd?
Rydym yn cyflogi addysgwyr proffesiynol i gyflwyno’r sesiynau – pob un ohonynt â phrofiad o weithio mewn amgylchedd ystafell ddosbarth ac wedi’u hyfforddi’n llawn i gyflwyno rhaglen Gwenyn y Coed Mêl. Mae’r holl staff wedi’u cofrestru gyda EWC ac mae ganddynt wiriadau CRB cyfredol.
Faint o ddisgyblion all gymryd rhan yn y sesiynau gweithgaredd?
Mae’r sesiynau gweithgaredd wedi eu cynllunio ar gyfer tua 30 o ddisgyblion.
A ellir cyflwyno’r sesiynau ar-lein?
Gellir. Mae yna ddetholiad o weithgareddau y gellir eu cynnig ar-lein. Rydym hefyd yn cynnal sesiynau galw heibio rheolaidd ar-lein i athrawon sy’n dymuno ymgyfarwyddo â’r rhaglen, gofyn cwestiynau neu rannu syniadau gyda chymuned ysgol gynradd Gwenyn y Coed Mêl.
A allaf brynu adnoddau ychwanegol fel llyfrnodau, hadau, jariau mêl, bandiau arddwrn?
Cewch. Rydym yn darparu digon ar gyfer hyd at 30 o ddisgyblion ond gellir prynu adnoddau am gost i ymestyn y rhaglen i ddosbarthiadau eraill.
A oes unrhyw gyfyngiadau ar ddefnyddio ein partner corfforaethol?
Mae’r partneriaethau a grëwyd i gyd yn unigryw. Mae hwn yn gyfle i gysylltu â busnes sydd â diddordeb mewn datblygu sgiliau pobl ifanc felly rydym yn gobeithio y bydd y cysylltiad yn mynd y tu hwnt i raglen Gwenyn y Coed Mêl. Wrth gwrs, chi sydd i benderfynu sut yr ydych yn eu cynnwys mewn unrhyw weithgarwch y tu hwnt i’n hymgysylltiad ni ond rydym yn mawr obeithio y byddwch yn cael gwerth ychwanegol o’r bartneriaeth.
Faint o ysgolion eraill sy’n cymryd rhan?
Rydym bellach yn gweithio gyda mwy na 130 o ysgolion cyrnadd ledled y DU. Mae’r nifer hwn yn cynyddu’n wythnosol.
A yw’r adnoddau ar gael mewn unrhyw iaith arall?
Mae’r holl adnoddau wedi eu cynhyrchu’n ddwyieithog fel bod ysgolion cyfrwng Cymraeg yn elwa o’r rhalgen ar yr un pryd ag ysgolion cyfrwng Saesneg. Byddwn yn ymchwilio i gyfieithu rhaglen Gwenyn y Coed Mêl i ieithoedd erail yn y dyfodol agos.
A allaf gyfeirio ysgol neu athro arall?
Gellir, rydym yn annog yr ysgolion a’r athrawon rydym yn gweithio gyda nhw i gyfeirio’r rhaglen Gwenyn y Coed Mêl at sylw eu ffrindiau a’u cyfoedion. Byddwn yn edrych ar y posibilrwydd o gyfieithu rhaglen Gwenyn Coed y Mêl i ieithoedd eraill yn y dyfodol.