Rydym yn awyddus i gysylltu busnesau ac ysgolion cynradd…

We are looking to connect businesses with primary schools… Find out more

Amdanom ni

Ein hanes, ein pwrpas, ein tîm a’n huchelgais

Ein hanes

Sefydlwyd 2B Enterprising gan Sue Poole ac Mark Hindmarsh – arweinydd addysg profiadol ym maes Busnes, Menter a Chyllid. Er mwyn gwneud newid sylweddoli i sgiliau entrepreneuraidd ein gweithlu, sylweddolodd fod angen gweithio gyda phobl ifanc o oedran cynnar iawn.

Mae’r adnoddau a’r gweithgareddau wedi’u cynllunio a’u datblygu gan weithwyr proffesiynol ym maes addysg a menter ac yn ymroddedig i ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol drwy adnoddau, gweithgareddau a chwarae hygyrch ac arolesol.

Wedi’i dreialu yn wreiddiol gyda nifer fach o ysgolion, mae’r rhaglen wedi derbyn llawer o fewnbwn, adborth a chefnogaeth gan athrawon sy’n cydnabod anghenion eu cyfoedion mewn ysgolion cynradd yn ogystal â’r bobl ifanc y maent yn eu haddysgu. Rydym bellach yn gweithio gyda thros 150 o ysgolion cynradd Cymru a Lloegr a rydym yn parhau i ddatblygu’r portffolio adnoddau a gwneud cysylltiadau ystyrlon rhwng busnesau ac ysgolion er budd profiadau presennol pobl ifanc a’u rhagolygon yn y dyfodol.

Ein pwrpas

Ein hamcan yw i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o ddinasyddion uchelgeisiol, iach, moesegol a mentrus sy’n gallu gwneud penderfyniadau’n hyderus, cyfathrebu’n effeithiol a chyfrannu’n gadarnhaol tuag at eu cymuned.

Mae cydweithredu yn elfen hanfodol o’n rhaglen ac rydym yn ymrwymo i gefnogi cydweithwyr a’n cymuned i ychwanegu gwerth lle bynnag y bo modd.

Cyfarfod y tîm

Mae tîm mentrus 2B yn cynnwys amrywiaeth o sgiliau gwahanol i’n helpu i gyflawni ein cenhadaeth a’n targedau. Rydym i gyd yn eithriadol o angerddol am raglen Gwenyn Coed y Mêl ar ôl gweld yr effaith y mae’n ei chael ar daith ddysgu pobl ifanc.

Jayne Brewer

Prif Swyddog Gweithredol

Mark Hindmarsh

Cadeirydd

Emily Lewis

Cydlynydd Gweithrediadau

Adam Darlow

Dylunydd Creadigol

Rhiannon John

Arweinydd Tîm Cyflenwi

Gemma Pugh

Cydlynydd Addysg Ddwyieithog

Tracy Bracher

Swyddog Marchnata a Chyfathrebu

Kathryn Di Terlizzi

Cydlynydd Addysg

Claire Dowd

Rheolwr Datblygu Busnes

Hannah Taylor

Rheolwr Gweithrediadau

Cwestiynau a ofynnir yn aml - Ysgolion

Mae’r adnoddau wedi eu hariannu’n llawn a byddant yn cefnogi athrawon i gyflwyno gweithgareddau diddorol a chyffrous sydd yn addas ar gyfer amrywiaeth o feysydd dysgu o fewn y cwricwlwm. Byddwch hefyd yn elwa o 3 gweithgaredd yn y dosbarth yn trafod thema o'ch dewis chi (tua 45 munud yr un). Beth bynnag fo’ch amserlen ddysgu, mae’r adnoddau’n ddigon hyblyg i gael eu hintegreiddio yn ôl y galw neu fel rhan o raglen fwy strwythuredig o wythnos i wythnos.

Mae’r adnoddau wedi’u datblygu gan addysgwyr proffesiynol profiadol ac arweinwyr menter er mwyn sicrhau cydbwysedd da o ofynion y cwricwlwm a gofynion sgiliau’r dyfodol. Treialwyd yr adnoddau gyda 15 o ysgolion cynradd cyn cyflwyno ein rhaglen Partneriaethau Corfforaethol.

Rydym wedi gwneud cysylltiadau priodol â meysydd dysgu a phrofiad yn ogystal â Phedwar Diben y Cwricwlwm i Gymru, fel y gall athrawon nodi’r adnoddau mwyaf addas i fodloni eu deilliannau dysgu. Gellir chwilio am yr adnoddau trwy lyfr stori, sgil a meysydd dysgu yn ogystal â nifer o gategorïau eraill.

Cewch. Bydd pob cynllun gwers yn cynnwys argymhellion i’r rhai o alluoedd cymysg er nwyn i chi allu addasu yn dibynnu ar anghenion eich dosbarth.

Rydym yn cyflogi addysgwyr proffesiynol i gyflwyno’r sesiynau – pob un ohonynt â phrofiad o weithio mewn amgylchedd ystafell ddosbarth ac wedi’u hyfforddi’n llawn i gyflwyno rhaglen Gwenyn y Coed Mêl. Mae’r holl staff wedi’u cofrestru gyda EWC ac mae ganddynt wiriadau CRB cyfredol.

Mae’r sesiynau gweithgaredd wedi eu cynllunio ar gyfer tua 30 o ddisgyblion.

Gellir. Mae yna ddetholiad o weithgareddau y gellir eu cynnig ar-lein. Rydym hefyd yn cynnal sesiynau galw heibio rheolaidd ar-lein i athrawon sy’n dymuno ymgyfarwyddo â’r rhaglen, gofyn cwestiynau neu rannu syniadau gyda chymuned ysgol gynradd Gwenyn y Coed Mêl.

Cewch. Rydym yn darparu digon ar gyfer hyd at 30 o ddisgyblion ond gellir prynu adnoddau am gost i ymestyn y rhaglen i ddosbarthiadau eraill.

Mae’r partneriaethau a grëwyd i gyd yn unigryw. Mae hwn yn gyfle i gysylltu â busnes sydd â diddordeb mewn datblygu sgiliau pobl ifanc felly rydym yn gobeithio y bydd y cysylltiad yn mynd y tu hwnt i raglen Gwenyn y Coed Mêl. Wrth gwrs, chi sydd i benderfynu sut yr ydych yn eu cynnwys mewn unrhyw weithgarwch y tu hwnt i’n hymgysylltiad ni ond rydym yn mawr obeithio y byddwch yn cael gwerth ychwanegol o’r bartneriaeth.

Rydym bellach yn gweithio gyda mwy na 130 o ysgolion cyrnadd ledled y DU. Mae’r nifer hwn yn cynyddu’n wythnosol.

Mae’r holl adnoddau wedi eu cynhyrchu’n ddwyieithog fel bod ysgolion cyfrwng Cymraeg yn elwa o’r rhalgen ar yr un pryd ag ysgolion cyfrwng Saesneg.

  • Byddwn yn edrych ar y posibilrwydd o gyfieithu rhaglen Gwenyn Coed y Mêl i ieithoedd eraill yn y dyfodol.

Gellir, rydym yn annog yr ysgolion a’r athrawon rydym yn gweithio gyda nhw i gyfeirio’r rhaglen Gwenyn y Coed Mêl at sylw eu ffrindiau a’u cyfoedion. Bydd ein cyflwyno ni i ysgol newydd yn golygu y gallwch dderbyn detholiad o adnoddau rhaglen ychwanegol fel gwobr i’ch ysgol chi.

Does dim. Y mae’r adnoddau ar gael i’r ysgol. Mae ein rhaglen partneriaeth ymgysylltu corfforaethol unigryw yn golygu ein bod yn adnabod cwmnïau lleol/cenedlaethol sy’n fodlon rhoi cefnogaeth ariannol ar gyfer yr adnoddau i ysgol (ion) yn eu rhanbarth. Mae’r busnes yn talu am yr adnoddau (y gellir eu defnyddio ar draws yr ysgol) yn ogystal â nwyddau ar gyfer 1 dosbarth (30 o blant) a 3 sesiwn drwy gydol y flwyddyn. Gall yr ysgol neu bartner busnes ddewis prynu adnoddau a sesiynau ychwanegol os oes angen.

Mae’r adnoddau wedi eu targedu ar gyfer oedrannau 5-8 ond gellir eu defnyddio ar gyfer rhai iau /hŷn yn dibynnu ar alluoedd pobl ifanc.

Mae’r rhaglen wedi ei chreu i’w hintegreiddio’n hawdd i unrhyw strwythur a sefydlwyd neu sy’n datblygu. Bydd Tîm Menter 2B yn ymweld â’ch ysgol i gyflwyno’r rhaglen i’r athrawon ac i drafod yr opsiynau i’w defnyddio. Rydym hefyd yn rhannu enghreifftiau o arfer wych ar ein cyfryngau cymdeithasol ac yn ein cylchlythyron – felly rhowch wybod i ni sut mae Gwenyn y Coed Mêl yn cael ei ddefnyddio ar draws ein cymuned o ysgolion.

Gellir cyrchu’r adnoddau trwy wefan www.2benterprising.co.uk. Gallwch chwilio drwy’r adnoddau gan ddefnyddio ffilterau categori a bydd angen manylion mewngofnodi a ddarperir i bob ysgol i’w lawrlwytho. Gallwch lawrlwytho adnoddau unigol neu ‘gasgliadau’ i sicrhau bod gennych gynllun gwers a gweithgareddau perthnasol mewn un ymweliad. Os nad ydych yn ysgol gofrestredig, gallwch barhau i gael mynediad at y Pecyn Sampl i athrawon a detholiad o adnoddau AM DDIM i chi eu defnyddio yn yr ystafell ddosbarth neu adref.

Y sesiwn gweitharedd gyntaf yw ein gweithgaredd ‘Rhwydweithio Melys’ lle rydym yn annog pobl ifanc i ymgyfarwyddo â chyflwyno eu hun a siarad am eu cryfderau/uchelgais. Mae gennym ddetholiad o sesiynau gweithgaredd eraill i ddewis ohonynt ac fe’u trafodir gyda’r athro cyn yr ail a’r trydydd sesiwn er mwyn i ni allu cyd-fynd â themâu neu feysydd penodol.

Mae’r sesiynau gweithgaredd rhwng 45 munud ac 1 awr.

Telir am yr adnoddau gan eich Partner Ymgysylltu Corfforaethol. Rydym yn adnabod busnesau sydd am ymgysylltu â’u cymuned leol gyda chynnig gwerthfawr ac rydym yn cysylltu ysgol gyda busnes lleol neu genedlaethol i greu’r Rhaglen Bartneriaeth.

Cewch. Oes. Rydym yn darparu 3 sesiwn fel rhan o’n rhaglen craidd, fodd bynnag, os hoffech dderbyn sesiynau ychwanegol – siaradwch gydag aelod o’r tîm neu e-bostiwch info@2benterprising.co.uk.

Nac oes. Byddem wrth ein bodd pe bai pob ysgol yn defnyddio’r adnoddau mor aml â phosib ond sylweddolwn hefyd fod yna lu o raglenni eraill sy’n ymdrin â phynciau gwahanol sydd angen eu hamserlennu er mwyn sicrhau cyllid a chefnogaeth fusnes flwyddyn ar ôl blwyddyn. Byddai’n fuddiol rhoi adborth i’ch Partner Ymgysylltu Corfforaethol ynghylch y modd rydych yn defnyddio’r adnoddau a pha mor werthfawr ydynt i’ch ysgol.

Cewch. Er mai tîm bychan ydyn ni, mae rhywun ar gael bob amser yn ystod oriau swyddfa sy'n gallu helpu neu ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych chi. Rydyn ni'n croesawu unrhyw adborth ac awgrymiadau am adnoddau ychwanegol allai fod yn ddefnyddiol i chi ac i'ch cydweithwyr. Cysylltwch ar info@2benterprising.co.uk neu ffoniwch 01792 277694.

Cewch. Mae gennym staff dwyieithog i gyflwyno'r sesiynau Gweithgaredd mewn ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg.

Gobeithiwn y byddwch yn mwynhau’r rhaglen ac am barhau i fod yn rhan o deulu Gwenyn y Coed Mêl. Gobeithiwn y bydd eich Partner Corfforaethol yn parhau i ddarparu cefnogaeth flynyddol i’ch ysgol, ond os bydd angen byddwn yn gweithio gyda chi i ddod o hyd i bartner arall i ariannu’r adnoddau. Mae pob blwyddyn o gefnogaeth yn dod â chyfres newydd o adnoddau i'r dosbarth yn ogystal â thair sesiwn gweithgaredd arall.

Cwestiynau a Ofynnir yn aml - Busnesau

Pris y rhaglen yw £987 + TAW i bob ysgol gynradd sy’n ymrwymo am 12 mis. Mae hyn yn cynnwys set o lyfrau, dros 120 o adnoddau digidol a chwch gwenyn yn llawn o adnoddau da ar gyfer athrawon a hyd at 30 o ddisgyblion. Mae’r ffi flynyddol yn cynnwys 3 sesiwn o weithgareddau sydd wedi eu cynllunio i gyflwyno athrawon i’r rhaglen ac maent hefyd yn cynnig sesiynau sgiliau menter diddorol a chyffrous gyda disgyblion.

Efallai yr hoffech ddewis ysgol sydd yn agos iawn i’ch busnes neu efallai yr hoffech gynnig yr opsiwn i gleintiaid/gweithwyr enwebu ysgol sydd yn bwysig iddyn nhw. Ar yr amod na chefnogir yr ysgol gan fusnes arall a’i bod â diddordeb mewn derbyn y rhaglen, yna gallwn weithio gyda nhw.

Cyn gynted ag y byddwch wedi dewis ysgol byddwn yn cysylltu â’r Pennaeth er mwyn cyflwyno’r rhaglen (os nad ydynt eisoes yn gyfarwydd â ni) gan roi gwybod iddynt eu bod wedi llwyddo i sicrhau partneriaeth. Yna rydyn ni’n bwcio eu sesiwn gweithgaredd gyntaf sydd yn gyfle i ni esbonio’r rhaglen i’r athrawon a’ch cyflwyno chi a’ch busnes.

Byddem yn argymell mwyafswm o 2 berson o’r cwmni.

Dim o gwbl! Bydd y tîm darparu dwyieithog yn sicrhau eich bod yn dal i deimlo’n rhan o’r broses ac yn ymgymryd ag unrhyw waith cyfieithu sydd ei angen yn ystod y sesiwn.

Deallwn nad yw bob amser yn bosibl mynychu gweithgaredd. Rhowch wybod i’r Rheolwr Gweithrediadau drwy e-bost- mo@2benterprising.co.uk os nad ydych yn gallu mynychu neu’n anfon rhywun arall yn eich lle. Bydd y gweithgaredd yn dal i fynd ymlaen fel a gynlluniwyd.

Y mae’r partneriaethau a grëwyd yn unigryw ac rydym wedi gweld nifer o ysgolion cynradd yn ymweld â safleoedd partner i weld gweithrediadau drostynt eu hunain neu wedi clywed am gynrychiolwyr cwmnïau’n cael eu gwahodd i ysgolion cynradd i ‘feirniadu’ cystadlaethau. Maen nhw hefyd wedi mynd ymlaen i noddi timau chwaraeon neu blannu coed. Rydym yn eich annog i wneud beth bynnag y gallwch i wneud y mwyaf o’r berthynas a’i gwneud mor unigryw â’r bobl rydych yn eu cefnogi.

Cewch! Byddem yn croesawu cael ein cyflwyno i ysgolion cynradd a fyddai’n elwa yn eich barn chi. E-bostiwch wybodaeth at info@2benterprising.co.uk

Ar hyn o bryd mae’r cynllun ar gael ar draws y DU ond rydym yn archwilio’r posibiliadau o ehangu’n ddaearyddol fanteision y cynllun. Cysylltwch, os gwelwch yn dda, os oes gennych ddiddordeb mewn ehangu mynediad i’r ddarpariaeth.

Cewch. Rydyn ni'n croesawu busnesau sy'n dewis mwy nag un ysgol i ehangu manteision eu cefnogaeth ac i effeithio'n gadarnhaol ar ragor o fywydau ifanc. Ar hyn o bryd mae gennym fusnesau sy'n cefnogi 15 o ysgolion ond gallwch ddewis cefnogi unrhyw nifer o ysgolion. Cysylltwch â ni i drafod ymhellach.

Mae’r tîm menter 2B wedi ymrwymo i ddarparu 3 sesiwn y flwyddyn a hoffem gynrychiolydd o’ch sefydliad chi hefyd i ymuno. Mae pob sesiwn yn para tua. 45 munud – 1 awr ond does dim disgwyl i chi fynychu pob sesiwn. yddwn wastad yn sicrhau bod eich ysgol bartner yn gwybod pwy sydd wedi eu cefnogi. Pe baech yn dymuno cynnig manteision eraill, e.e. ymweliadau ysgol, byddem yn sicr yn eich annog i wneud hynny.

Does dim disgwyl dim ond bod yn bresennol a chyflwyno’ch hun i’r athrawon/disgyblion. Byddai’n wych pe baech hefyd yn gallu cyflwyno’r busnes ac esbonio ‘r rolau a’r sgiliau sydd eu hangen i weithio yn eich diwydiant. Mae’r bobl ifanc hefyd wrth eu bodd pan fo ymwelwyr yn cymryd rhan yn y gweithgaredd... ond rydym yn addo peidio â gwneud i neb wisgo gwisg Glenda Gwenyn (oni bai eu bod WIR eisiau).

Mae pob ysgol yn wahanol felly mae’n bwysig mynd i bob ymweliad gyda meddwl agored. Mae rhai ysgolion yn dal i gynnal rheoliadau llym er mwyn lleihau lledaeniad firysau felly rydym yn annog ymwelwyr i wneud profion llif unffordd/peidio ag ymweld os nad ydynt yn teimlo’n iach. Dewch â mygydau gyda chi, diheintydd a chadewch ddigon o bellter cymdeithasol lle bo modd. Y mae ein staff yn derbyn gwiriad CRB a bydd wastad aelod o staff yn bresennol yn yr ystafell yn ystod y sesiynau. Mae’n bosib y bydd cyfyngu ar dynnu lluniau a bydd angen i’r ffotograffau gael eu cymeradwyo gan staff cyn eu cyhoeddi. Gallwch fod yn dawel eich meddwl y bydd ein staff yn eich briffio cyn unrhyw ymweliad ag ysgol ac os oes unrhyw gwestiynau gennych ar unrhyw adeg - croeso i chi gysylltu â info@2benterprising.co.uk neu ffoniwch 01792 277694.

Mae gennym nifer o sianeli cyfryngau cymdeithasol sy’n cael eu defnyddio gan ysgolion cynradd a ninnau i rannu’r gwaith gwych sydd yn cael ei wneud drwy’r rhaglen The Bumbles of Honeywood. Yn dibynnu ar y lefel o gefnogaeth yr ydych yn ymrwymo iddi, gallwn gynnig cyfleoedd ar gyfer cysylltiadau cyhoeddus arbennig a gwahoddiadau i ddigwyddiadau i wneud y mwyaf o’ch cyfranogiad.

Cewch! Byddem yn croesawu’n fawr gyflwyniadau i fusnesau sydd ag ethos tebyg i ni a’n partneriaid presennol. Rydym eisiau gweithio gyda sefydliadau gwahanol sydd wedi ymrwymo i wneud newidiadau a chefnogi pobl ifanc gyda chyfleoedd sydd fel arfer ond yn eu cyflwyno eu hunain yn hwyrach mewn bywyd. Os gwelwch yn dda, dywedwch wrthynt am gysylltu drwy info@2benterprising.co.uk.