Rydym yn awyddus i gysylltu busnesau ac ysgolion cynradd…

Rydych chi wedi allgofnodi ar hyn o bryd.

neu

eich ysgol i lawrlwytho adnoddau

Gwefr y Gwenyn

Mae Gwenan a Gwenlli yn creu her ffitrwydd hwyliog i annog trigolion Coed y Mêl i fod yn egnïol a byw bywyd iach.

Mae Gwenan a Gwenlli yn efeilliaid unfath sy’n byw yn y cwch gwenyn gyda’u rhieni, eu brodyr a’u chwiorydd. Maen nhw wrth eu bodd yn mynd ar anturiaethau gyda’i gilydd ond wrth i Gwenlli fagu pwysau a bwyta ychydig gormod o fêl mae’n ei chael hi’n anodd hedfan i fyny i’r awyr. Mae Gwenan yn ei helpu i gadw’n heini a bwyta’n iach er mwyn iddyn nhw gael hedfan o gwmpas gyda’i gilydd unwaith eto. Maen nhw’n creu her ffitrwydd ddyddiol ar gyfer holl greaduriaid Coed y Mêl er mwyn hwyluso ffordd iachus o fyw i bawb. Mae’r efeilliaid hefyd yn darganfod ffordd arloesol o werthu Mêl Aur Coed y Mêl sy’n gwneud iddyn nhw deimlo’n fentrus iawn hefyd.

Gweithgareddau

Gweithgaredd i ddatblygu a dangos sgiliau entrepreneuraidd – rhoi’r dysgu o lyfrau Gwenyn Coed y Mêl a’r adnoddau addysgu atodol ar waith.

Cynlluniau gwersi

Cynllun manwl i gynorthwyo athrawon i gyflwyno gwers sy’n ymroddedig i ddatblygu meddylfryd entrepreneuraidd. Gan dynnu sylw at feysydd dysgu a sgiliau allweddol a astudiwyd, bydd y canllaw gwersi hwn yn nodi’r adnoddau priodol sydd eu hangen ar gyfer gweithgareddau a hefyd opsiynau gwahaniaethu ar gyfer galluoedd amrywiol.

Cyflwyniadau

Cyflwyniad PowerPoint i gefnogi’r ddealltwriaeth o themâu amrywiol a astudiwyd yn llyfrau Gwenyn Coed y Mêl ac atgyfnerthu’r sgiliau sydd eu hangen i ddatblygu meddylfryd entrepreneuraidd.

Opsiynau lawrlwytho

Ar gyfer lawrlwytho diderfyn
a chofrestrmynediad i dderbyn gwybodaeth am Wenyn Coed y Mêl.

Sgiliau Craidd

  • Penderfyniad
  • Hyder
  • Gwaith Tîm

Login to your account