Rydym yn awyddus i gysylltu busnesau ac ysgolion cynradd…

We are looking to connect businesses with primary schools… Find out more

Rydych chi wedi allgofnodi ar hyn o bryd.

neu

eich ysgol i lawrlwytho adnoddau

Siapiwch Hi Wenyn

Mae Gwenan a Gwenlli yn creu her ffitrwydd hwyliog i annog trigolion Coed y Mêl i fod yn egnïol a byw bywyd iach.
Mae Gwenan a Gwenlli yn efeilliaid unfath sy’n byw yn y cwch gwenyn gyda’u rhieni, eu brodyr a’u chwiorydd. Maen nhw wrth eu bodd yn mynd ar anturiaethau gyda’i gilydd ond wrth i Gwenlli fagu pwysau a bwyta ychydig gormod o fêl mae’n ei chael hi’n anodd hedfan i fyny i’r awyr. Mae Gwenan yn ei helpu i gadw’n heini a bwyta’n iach er mwyn iddyn nhw gael hedfan o gwmpas gyda’i gilydd unwaith eto. Maen nhw’n creu her ffitrwydd ddyddiol ar gyfer holl greaduriaid Coed y Mêl er mwyn hwyluso ffordd iachus o fyw i bawb. Mae’r efeilliaid hefyd yn darganfod ffordd arloesol o werthu Mêl Aur Coed y Mêl sy’n gwneud iddyn nhw deimlo’n fentrus iawn hefyd.
Gweithgareddau

Gweithgaredd i ddatblygu a dangos sgiliau entrepreneuraidd – rhoi’r dysgu o lyfrau Gwenyn Coed y Mêl a’r adnoddau addysgu atodol ar waith.

Cynlluniau gwersi

Cynllun manwl i gynorthwyo athrawon i gyflwyno gwers sy’n ymroddedig i ddatblygu meddylfryd entrepreneuraidd. Gan dynnu sylw at feysydd dysgu a sgiliau allweddol a astudiwyd, bydd y canllaw gwersi hwn yn nodi’r adnoddau priodol sydd eu hangen ar gyfer gweithgareddau a hefyd opsiynau gwahaniaethu ar gyfer galluoedd amrywiol.

Cyflwyniadau

Cyflwyniad PowerPoint i gefnogi’r ddealltwriaeth o themâu amrywiol a astudiwyd yn llyfrau Gwenyn Coed y Mêl ac atgyfnerthu’r sgiliau sydd eu hangen i ddatblygu meddylfryd entrepreneuraidd.

Opsiynau lawrlwytho

Ar gyfer lawrlwytho diderfyn
a chofrestrmynediad i dderbyn gwybodaeth am Wenyn Coed y Mêl.

Siapiwch Hi Wenyn Adnoddau Menter

Archwiliwch yr adnoddau gan ddefnyddio’r amryw gategorïau yn dibynnu are eich thema neu’ch deilliannau dysgu dewisol. Gadewch yr hidlydd categori ar ‘POPETH’ os nad oes gennych ddewis penodol neu os hoffech ehangu’r dewis o adnoddau.

Hidlo Adnoddau Llyfrau

Lawrlwytho Adnoddau Llyfrau

Beth y mae gwyddonydd yn ei wneud
Defnyddiwch y fideos i ddysgu am yr hyn y mae gwyddonydd yn ei wneud, yna cwblhewch eich arbrawf gwyddonol eich hun gan ddefnyddio hylif lliwi bwyd a dŵr. Ceisiwch wneud patrymau a lliwiau gwahanol a byddwch yn greadigol gyda’ch dyluniadau..
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Bocs bwyd iachus
Heriwch y plant i greu bocs bwyd iachus. Gellir gwneud hyn yn gorfforol neu ar y taflenni a ddarperir. Anogwch y plant i ddefnyddio ystod o fwydydd o’r holl grwpiau bwyd i greu pryd iach a chytbwys.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Bocs bwyd iachus (GI)
Cwblhewch y bocs bwyd. Anogwch y plant i dynnu llun yr hyn yr hoffent ei gynnwys a meddwl pam eu bod wedi ei gynnwys.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Bocs bwyd iachus (GU)
Cwblhewch y bocs bwyd iach. Anogwch y plant i dynnu llun yr hyn yr hoffent ei gynnwys ac ysgrifennu oddi tano yr hyn y maent wedi’i gynnwys a pham.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Bod yn iachus
Defnyddiwch y cyflwyniad i feddwl beth yw ystyr bod yn iach. Dysgwch am ymarfer corff a deiet cytbwys a pha mor bwysig yw’r rhain i fyw bywyd hapus ac iach.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Bwydydd iachus ac aniachus
Trefnwch y ddau gategori, iach ac aniachus. Meddyliwch pam eu bod yn eu rhoi ym mhob categori a rhowch resymau.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Cofnod ymarfer corff (GI)
Cwblhewch y cofnod ymarfer corff, gwnewch ragfynegiad o faint o bob ymarfer gallwch chi ei wneud mewn 3 munud a chofnodwch y cyfanswm maent wedi’i gwblhau.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Cofnod ymarfer corff (GU)
Cwblhewch y cofnod ymarfer corff, gwnewch ragfynegiad o faint o bob ymarfer gallwch chi ei wneud mewn 3 munud. Cyfrifwch y cyfanswm a gwblhawyd ganddynt a’r gwahaniaeth rhwng eu rhagfynegiad a’r cyfanswm.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6

Lawrlwytho Adnoddau Llyfrau

1 2 3 5

Login to your account