Rydym yn awyddus i gysylltu busnesau ac ysgolion cynradd…

We are looking to connect businesses with primary schools… Find out more

Rydych chi wedi allgofnodi ar hyn o bryd.

neu

eich ysgol i lawrlwytho adnoddau

Siapiwch Hi Wenyn

Mae Gwenan a Gwenlli yn creu her ffitrwydd hwyliog i annog trigolion Coed y Mêl i fod yn egnïol a byw bywyd iach.
Mae Gwenan a Gwenlli yn efeilliaid unfath sy’n byw yn y cwch gwenyn gyda’u rhieni, eu brodyr a’u chwiorydd. Maen nhw wrth eu bodd yn mynd ar anturiaethau gyda’i gilydd ond wrth i Gwenlli fagu pwysau a bwyta ychydig gormod o fêl mae’n ei chael hi’n anodd hedfan i fyny i’r awyr. Mae Gwenan yn ei helpu i gadw’n heini a bwyta’n iach er mwyn iddyn nhw gael hedfan o gwmpas gyda’i gilydd unwaith eto. Maen nhw’n creu her ffitrwydd ddyddiol ar gyfer holl greaduriaid Coed y Mêl er mwyn hwyluso ffordd iachus o fyw i bawb. Mae’r efeilliaid hefyd yn darganfod ffordd arloesol o werthu Mêl Aur Coed y Mêl sy’n gwneud iddyn nhw deimlo’n fentrus iawn hefyd.
Gweithgareddau

Gweithgaredd i ddatblygu a dangos sgiliau entrepreneuraidd – rhoi’r dysgu o lyfrau Gwenyn Coed y Mêl a’r adnoddau addysgu atodol ar waith.

Cynlluniau gwersi

Cynllun manwl i gynorthwyo athrawon i gyflwyno gwers sy’n ymroddedig i ddatblygu meddylfryd entrepreneuraidd. Gan dynnu sylw at feysydd dysgu a sgiliau allweddol a astudiwyd, bydd y canllaw gwersi hwn yn nodi’r adnoddau priodol sydd eu hangen ar gyfer gweithgareddau a hefyd opsiynau gwahaniaethu ar gyfer galluoedd amrywiol.

Cyflwyniadau

Cyflwyniad PowerPoint i gefnogi’r ddealltwriaeth o themâu amrywiol a astudiwyd yn llyfrau Gwenyn Coed y Mêl ac atgyfnerthu’r sgiliau sydd eu hangen i ddatblygu meddylfryd entrepreneuraidd.

Opsiynau lawrlwytho

Ar gyfer lawrlwytho diderfyn
a chofrestrmynediad i dderbyn gwybodaeth am Wenyn Coed y Mêl.

Siapiwch Hi Wenyn Adnoddau Menter

Archwiliwch yr adnoddau gan ddefnyddio’r amryw gategorïau yn dibynnu are eich thema neu’ch deilliannau dysgu dewisol. Gadewch yr hidlydd categori ar ‘POPETH’ os nad oes gennych ddewis penodol neu os hoffech ehangu’r dewis o adnoddau.

Hidlo Adnoddau Llyfrau

Lawrlwytho Adnoddau Llyfrau

Cwis bingo gwenyn
Lawrlwythwch ein cardiau Bingo Sïo Gwenyn. Anogwch y plant i fynd o amgylch y tŷ i ddod o hyd i’r eitemau ar eu cerdyn bingo. Pan fyddant wedi dod o hyd iddynt, ticiwch yr eitem ar eu cerdyn. Sylwch sawl un gallan nhw ei gasglu. Mae’r person cyntaf i gwblhau’r holl flychau yn ennill gwobr.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Dod yn adolygydd ffilm
Penderfynwch ar ffilm i’w gwylio gyda’ch teulu cyfan, gofynnwch i’r plant gwblhau’r templed ac adolygu’r ffilm rydych chi’n penderfynu ei gwylio. Gofynnwch iddyn nhw esbonio llinell y stori, pwy oedd eu hoff gymeriad a beth oedd eu hoff ran.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Dosbarth ffitrwydd
Ar ôl dysgu am bwysigrwydd ymarfer corff, heriwch y plant i ddyfeisio a rhedeg eu dosbarth ffitrwydd eu hunain yn para 5/10 munud. Bydd y plant yn gweithio mewn grwpiau bach i gynllunio, hysbysebu a chyflwyno eu dosbarthiadau ymarfer corff i’w cyfoedion.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Dyddiadur bwyd (penwythnos)
Heriwch y plant i gwblhau dyddiadur bwyd penwythnos. Gosodwch rai prydau iach a chytbwys, a phan fyddant yn dychwelyd ddydd Llun, gofynnwch os ydynt wedi cadw at at eu cynllun pryd bwyd gyda’u teulu.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Dyddiadur bwyd (wythnosol)
Heriwch y plant i greu dyddiadur bwyd am wythnos gyfan. Anogwch nhw i ddewis prydau iach a chytbwys ac i greu cynllun y gallan nhw gadw ato gartref gyda’u teulu.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Dyfeisio rhywbeth newydd
Anogwch y plentyn i fod yn greadigol a chyfathrebu. Nid gwneud rhywbeth newydd o reidrwydd yw’r dasg hon, ond siarad am rywbeth y mae ganddynt ddiddordeb ynddo. Gofynnwch lawer o gwestiynau a brasluniwch eu syniadau.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Enghreifftiau dosbarth ffitrwydd
Defnyddiwch y cyflwyniad i ddangos enghreifftiau o hysbysebu ar gyfer dosbarthiadau ffitrwydd. Trafodwch mewn grwpiau beth oedd gan bob un o’r posteri’n gyffredin a beth roedden nhw’n hoffi. Gwnewch restr o’r pethau y bydd angen iddynt eu cofio wrth wneud eu posteri hysbysebu eu hunain.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Ffrwydrad annisgwl
Gwyliwch fideo o arbrawf gwyddoniaeth. Dilynwch y dull a chrëwch eich arbrawf gwyddoniaeth eich hun gartref. Ymchwiliwch a dysgwch pam y ffrwydrodd y botel lemonêd a pha adwaith ddigwyddodd.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6

Lawrlwytho Adnoddau Llyfrau

Login to your account