Rydych chi wedi allgofnodi ar hyn o bryd.

neu

eich ysgol i lawrlwytho adnoddau

Gwefr y Gwenyn

Mae Gwenan a Gwenlli yn creu her ffitrwydd hwyliog i annog trigolion Coed y Mêl i fod yn egnïol a byw bywyd iach.
Mae Gwenan a Gwenlli yn efeilliaid unfath sy’n byw yn y cwch gwenyn gyda’u rhieni, eu brodyr a’u chwiorydd. Maen nhw wrth eu bodd yn mynd ar anturiaethau gyda’i gilydd ond wrth i Gwenlli fagu pwysau a bwyta ychydig gormod o fêl mae’n ei chael hi’n anodd hedfan i fyny i’r awyr. Mae Gwenan yn ei helpu i gadw’n heini a bwyta’n iach er mwyn iddyn nhw gael hedfan o gwmpas gyda’i gilydd unwaith eto. Maen nhw’n creu her ffitrwydd ddyddiol ar gyfer holl greaduriaid Coed y Mêl er mwyn hwyluso ffordd iachus o fyw i bawb. Mae’r efeilliaid hefyd yn darganfod ffordd arloesol o werthu Mêl Aur Coed y Mêl sy’n gwneud iddyn nhw deimlo’n fentrus iawn hefyd.
Gweithgareddau

Gweithgaredd i ddatblygu a dangos sgiliau entrepreneuraidd – rhoi’r dysgu o lyfrau Gwenyn Coed y Mêl a’r adnoddau addysgu atodol ar waith.

Cynlluniau gwersi

Cynllun manwl i gynorthwyo athrawon i gyflwyno gwers sy’n ymroddedig i ddatblygu meddylfryd entrepreneuraidd. Gan dynnu sylw at feysydd dysgu a sgiliau allweddol a astudiwyd, bydd y canllaw gwersi hwn yn nodi’r adnoddau priodol sydd eu hangen ar gyfer gweithgareddau a hefyd opsiynau gwahaniaethu ar gyfer galluoedd amrywiol.

Cyflwyniadau

Cyflwyniad PowerPoint i gefnogi’r ddealltwriaeth o themâu amrywiol a astudiwyd yn llyfrau Gwenyn Coed y Mêl ac atgyfnerthu’r sgiliau sydd eu hangen i ddatblygu meddylfryd entrepreneuraidd.

Opsiynau lawrlwytho

Ar gyfer lawrlwytho diderfyn
a chofrestrmynediad i dderbyn gwybodaeth am Wenyn Coed y Mêl.

Gwefr y Gwenyn Adnoddau Menter

Archwiliwch yr adnoddau gan ddefnyddio’r amryw gategorïau yn dibynnu are eich thema neu’ch deilliannau dysgu dewisol. Gadewch yr hidlydd categori ar ‘POPETH’ os nad oes gennych ddewis penodol neu os hoffech ehangu’r dewis o adnoddau.

Hidlo Adnoddau Llyfrau

Lawrlwytho Adnoddau Llyfrau

Siapiwch Hi Wenyn; Termau Dwyieithiog – Eidaleg
Defnyddiwch yr ymadroddion hyn yn Siapiwch Hi Wenyn i ymgorffori’r Eidaleg ymhob gweithgaredd.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Siapiwch Hi Wenyn; Termau Dwyieithiog – Ffrangeg
Defnyddiwch yr ymadroddion hyn yn Siapiwch Hi Wenyn i ymgorffori’r Ffrangeg ymhob gweithgaredd.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Trefnu bwyd
Bydd y plant yn cael delweddau o fwydydd a thaflenni gwaith trefnu. Bydd y plant yn trefnu’r bwydydd yn gategorïau iachus ac aniachus. Gofynnwch i’r plant labelu’r bwydydd a thrafod y gwahanol grwpiau bwyd.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Trefnu grwpiau bwyd
Trefnwch y grwpiau bwydydd yn eu grwpiau bwyd. Rhowch y bwydydd naill ai mewn ffrwythau a llysiau, protein, cynnyrch llaeth, carbohydradau, brasterau a siwgrau. Trafodwch sut y gall rhai bwydydd fod mewn categorïau lluosog.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Who Fills your Heart? – Activity 1

Use this template to draw and or write the people who support and encourage them in life, giving them confidence and filling their heart.

Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Who Fills your Heart? – Lesson Plan

Children to think about how Betsy was proud of her sister when she managed to improve her flying skills by practising and being determined. Children to share who supports them and encourages them, therefore filling their heart.

Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Ymarferion gwenyn
Plant i ddwyn i gof y digwyddiadau allweddol yn y llyfr ‘Siapiwch Hi Wenyn’. Trefnodd Gwenan a Gwenlli ddosbarth ffitrwydd ddyddiol ar gyfer yr holl wenyn yn y cwch gwenyn i’w helpu i gadw’n heini ac iach. Trafodwch gyda’r plant beth mae cadw’n heini yn ei olygu.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Ymarferion taflu syniadau
Defnyddiwch y daflen waith hon i drafod ymarferion posib i’w defnyddio yn eich dosbarth ffitrwydd. Gallwch naill ai dynnu lluniau neu ysgrifennu enwau’r ymarferion ar y daflen.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6

Lawrlwytho Adnoddau Llyfrau

Login to your account