Faint fydd pris y rhaglen Gwenyn y Coed Mêl a beth mae e’n ei gynnwys?
Pris y rhaglen yw £2478 + TAW i bob ysgol gynradd sy’n ymrwymo am 12 mis. Mae hyn yn cynnwys set o lyfrau, dros 120 o adnoddau digidol a chwch gwenyn yn llawn o adnoddau da ar gyfer athrawon a hyd at 30 o ddisgyblion. Mae’r ffi flynyddol yn cynnwys 3 sesiwn o weithgareddau sydd wedi eu cynllunio i gyflwyno athrawon i’r rhaglen ac maent hefyd yn cynnig sesiynau sgiliau menter diddorol a chyffrous gyda disgyblion.
Sut rydym yn dewis ysgol bartneriaeth?
Efallai yr hoffech ddewis ysgol sydd yn agos iawn i’ch busnes neu efallai yr hoffech gynnig yr opsiwn i gleintiaid/gweithwyr enwebu ysgol sydd yn bwysig iddyn nhw. Ar yr amod na chefnogir yr ysgol gan fusnes arall a’i bod â diddordeb mewn derbyn y rhaglen, yna gallwn weithio gyda nhw.
Beth sy’n digwydd pan fyddwn ni wedi dethol ysgol/ion?
Cyn gynted ag y byddwch wedi dewis ysgol byddwn yn cysylltu â’r Pennaeth er mwyn cyflwyno’r rhaglen (os nad ydynt eisoes yn gyfarwydd â ni) gan roi gwybod iddynt eu bod wedi llwyddo i sicrhau partneriaeth. Yna rydyn ni’n bwcio eu sesiwn gweithgaredd gyntaf sydd yn gyfle i ni esbonio’r rhaglen i’r athrawon a’ch cyflwyno chi a’ch busnes.
Faint o bobl sy’n gallu mynychu pob sesiwn o’n cwmni ni?
Byddem yn argymell mwyafswm o 2 berson o’r cwmni.
Byddem yn hoffi cefnogi ysgol Gymraeg ond dydyn ni ddim yn gallu siarad Cymraeg, ydy hyn yn broblem?
Dim o gwbl! Bydd y tîm darparu dwyieithog yn sicrhau eich bod yn dal i deimlo’n rhan o’r broses ac yn ymgymryd ag unrhyw waith cyfieithu sydd ei angen yn ystod y sesiwn.
Beth sy’n digwydd os na allwn ymweld?
Deallwn nad yw bob amser yn bosibl mynychu gweithgaredd. Rhowch wybod i’r Rheolwr Gweithrediadau drwy e-bost- mo@2benterprising.co.uk os nad ydych yn gallu mynychu neu’n anfon rhywun arall yn eich lle. Bydd y gweithgaredd yn dal i fynd ymlaen fel a gynlluniwyd.
Ym mha ffyrdd eraill y gallwn gefnogi’r ysgol gynradd?
Y mae’r partneriaethau a grëwyd yn unigryw ac rydym wedi gweld nifer o ysgolion cynradd yn ymweld â safleoedd partner i weld gweithrediadau drostynt eu hunain neu wedi clywed am gynrychiolwyr cwmnïau’n cael eu gwahodd i ysgolion cynradd i ‘feirniadu’ cystadlaethau. Maen nhw hefyd wedi mynd ymlaen i noddi timau chwaraeon neu blannu coed. Rydym yn eich annog i wneud beth bynnag y gallwch i wneud y mwyaf o’r berthynas a’i gwneud mor unigryw â’r bobl rydych yn eu cefnogi.
A gaf i enwebu ysgol gynradd a allai elwa o’r rhaglen Gwenyn y Coed Mêl?
Cewch! Byddem yn croesawu cael ein cyflwyno i ysgolion cynradd a fyddai’n elwa yn eich barn chi. E-bostiwch wybodaeth at info@2benterprising.co.uk