Mae’r gwenyn yn cydweithio er mwyn goresgyn aflonyddwch yng Nghoed y Mêl a achosir gan nyth o gymdogion swnllyd, cas. Gwaith tîm ar ei orau!
Mae’r cwch gwenyn yn cael ei aflonyddu pan fo nyth cacwn anfoesgar ac anghwrtais yn symud i’r ardal ac yn dechrau bwlio a dwyn mêl. Mae’n rhaid i’r gwenyn weithio gyda’i gilydd i ddatrys y broblem wrth i’r sefyllfa waethygu. Mae Gwyn yn cael ei anafu wrth achub Ger bach oddi wrth y cacwn cas, felly mae’r gwenyn eraill yn gwneud y defnydd gorau o’u hadnoddau eu hunain i’w helpu a gwella’i adain. Mae’r gwenyn yn wynebu sawl sefyllfa anodd yn y stori hon ond yn y pen draw maen nhw’n dod â’r gymuned o wenyn adref yn ddiogel at ei gilydd.
Gweithgareddau
Gweithgaredd i ddatblygu a dangos sgiliau entrepreneuraidd – rhoi’r dysgu o lyfrau Gwenyn Coed y Mêl a’r adnoddau addysgu atodol ar waith.
Cynlluniau gwersi
Cynllun manwl i gynorthwyo athrawon i gyflwyno gwers sy’n ymroddedig i ddatblygu meddylfryd entrepreneuraidd. Gan dynnu sylw at feysydd dysgu a sgiliau allweddol a astudiwyd, bydd y canllaw gwersi hwn yn nodi’r adnoddau priodol sydd eu hangen ar gyfer gweithgareddau a hefyd opsiynau gwahaniaethu ar gyfer galluoedd amrywiol.
Cyflwyniadau
Cyflwyniad PowerPoint i gefnogi’r ddealltwriaeth o themâu amrywiol a astudiwyd yn llyfrau Gwenyn Coed y Mêl ac atgyfnerthu’r sgiliau sydd eu hangen i ddatblygu meddylfryd entrepreneuraidd.
Opsiynau lawrlwytho
Ar gyfer lawrlwytho diderfyn a chofrestrmynediad i dderbyn gwybodaeth am Wenyn Coed y Mêl
Archwiliwch yr adnoddau gan ddefnyddio’r gwahanol gategorïau yn dibynnu ar eich thema neu’ch deilliannau dysgu dymunol. Gadewch yr hidlydd ar ‘Y cyfan’ os nad oes gennych flaenoriaeth neu os ydych yn dymuno ehangu’r dewis o adnoddau.