Mae Gwen yn ceisio dod o hyd i ddŵr glân i wella’r gwenyn bach sâl. Mae’n cyfarfod ffrindiau newydd ac yn datblygu sgiliau newydd ar ei thaith.
Mae Gwen yn wenynen bach caredig, meddylgar a mentrus. Mae hi wrth ei bodd yn hedfan gyda’i ffrindiau sy’n wenyn a chasglu paill oddi wrth flodau prydferth. Un diwrnod mae’n deffro i ganfod bod gwenyn y cwch gwenyn yn sâl ar ôl yfed dŵr budr o’r afon leol. Mae Gwen yn llawn egni ac yn awyddus i ddod o hyd i gyflenwad dŵr ffres, glân ar gyfer y gwenyn. Mae hi’n hedfan i ffwrdd ar ei hantur ac yn cyfarfod ffrindiau newydd ar hyd y ffordd. Mae Gwen yn dysgu pwysigrwydd partneriaethau a chyfeillgarwch a sylweddola bod cydweithio yn golygu bod modd cyflawni tipyn mwy na gweithio ar eich pen eich hun.
Gweithgareddau
Gweithgaredd i ddatblygu a dangos sgiliau entrepreneuraidd – rhoi’r dysgu o lyfrau Gwenyn Coed y Mêl a’r adnoddau addysgu atodol ar waith.
Cynlluniau gwersi
Cynllun manwl i gynorthwyo athrawon i gyflwyno gwers sy’n ymroddedig i ddatblygu meddylfryd entrepreneuraidd. Gan dynnu sylw at feysydd dysgu a sgiliau allweddol a astudiwyd, bydd y canllaw gwersi hwn yn nodi’r adnoddau priodol sydd eu hangen ar gyfer gweithgareddau a hefyd opsiynau gwahaniaethu ar gyfer galluoedd amrywiol.
Cyflwyniadau
Cyflwyniad PowerPoint i gefnogi’r ddealltwriaeth o themâu amrywiol a astudiwyd yn llyfrau Gwenyn Coed y Mêl ac atgyfnerthu’r sgiliau sydd eu hangen i ddatblygu meddylfryd entrepreneuraidd.
Opsiynau lawrlwytho
Ar gyfer lawrlwytho diderfyn a chofrestrmynediad i dderbyn gwybodaeth am Wenyn Coed y Mêl
Archwiliwch yr adnoddau gan ddefnyddio’r gwahanol gategorïau yn dibynnu ar eich thema neu’ch deilliannau dysgu dymunol. Gadewch yr hidlydd ar ‘Y cyfan’ os nad oes gennych flaenoriaeth neu os ydych yn dymuno ehangu’r dewis o adnoddau.