Rydych chi wedi allgofnodi ar hyn o bryd.

neu

eich ysgol i lawrlwytho adnoddau

Dawns Siglo Gwenan Gwenynen

Mae Gwen yn ceisio dod o hyd i ddŵr glân i wella’r gwenyn bach sâl. Mae’n cyfarfod ffrindiau newydd ac yn datblygu sgiliau newydd ar ei thaith.
Mae Gwen yn wenynen bach caredig, meddylgar a mentrus. Mae hi wrth ei bodd yn hedfan gyda’i ffrindiau sy’n wenyn a chasglu paill oddi wrth flodau prydferth. Un diwrnod mae’n deffro i ganfod bod gwenyn y cwch gwenyn yn sâl ar ôl yfed dŵr budr o’r afon leol. Mae Gwen yn llawn egni ac yn awyddus i ddod o hyd i gyflenwad dŵr ffres, glân ar gyfer y gwenyn. Mae hi’n hedfan i ffwrdd ar ei hantur ac yn cyfarfod ffrindiau newydd ar hyd y ffordd. Mae Gwen yn dysgu pwysigrwydd partneriaethau a chyfeillgarwch a sylweddola bod cydweithio yn golygu bod modd cyflawni tipyn mwy na gweithio ar eich pen eich hun.
Gweithgareddau

Gweithgaredd i ddatblygu a dangos sgiliau entrepreneuraidd – rhoi’r dysgu o lyfrau Gwenyn Coed y Mêl a’r adnoddau addysgu atodol ar waith.

Cynlluniau gwersi

Cynllun manwl i gynorthwyo athrawon i gyflwyno gwers sy’n ymroddedig i ddatblygu meddylfryd entrepreneuraidd. Gan dynnu sylw at feysydd dysgu a sgiliau allweddol a astudiwyd, bydd y canllaw gwersi hwn yn nodi’r adnoddau priodol sydd eu hangen ar gyfer gweithgareddau a hefyd opsiynau gwahaniaethu ar gyfer galluoedd amrywiol.

Cyflwyniadau

Cyflwyniad PowerPoint i gefnogi’r ddealltwriaeth o themâu amrywiol a astudiwyd yn llyfrau Gwenyn Coed y Mêl ac atgyfnerthu’r sgiliau sydd eu hangen i ddatblygu meddylfryd entrepreneuraidd.

Opsiynau lawrlwytho

Ar gyfer lawrlwytho diderfyn
a chofrestrmynediad i dderbyn gwybodaeth am Wenyn Coed y Mêl.

Dawns Siglo Gwenan Gwenynen Adnoddau Menter

Archwiliwch yr adnoddau gan ddefnyddio’r amryw gategorïau yn dibynnu are eich thema neu’ch deilliannau dysgu dewisol. Gadewch yr hidlydd categori ar ‘POPETH’ os nad oes gennych ddewis penodol neu os hoffech ehangu’r dewis o adnoddau.

Hidlo Adnoddau Llyfrau

Lawrlwytho Adnoddau Llyfrau

Dawns Siglo – Cynllun Gwers
Gwenyn yn gwneud dawns siglo hapus pan ânt allan i gasglu paill. Defnyddiwch y wers hon i greu eich dawns siglo eich hun. Defnyddiwch ein cân a geiriau i ddysgu’r gân a pherfformio’ch dawns eich hun.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Dawns Siglo Gwen Gwenynen; Termau Dwyieithog – Cymraeg
Defnyddiwch yr ymadroddion hyn yn Nawns Siglo Gwen Gwenynen i ymgorffori’r Gymraeg ymhob gweithgaredd.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Dawns Siglo Gwen Gwenynen; Termau Dwyieithog – Eidaleg
Defnyddiwch yr ymadroddion hyn yn Nawns Siglo Gwen Gwenynen i ymgorffori’r Eidaleg ymhob gweithgaredd.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Dawns Siglo Gwen Gwenynen; Termau Dwyieithog – Ffrangeg
Defnyddiwch yr ymadroddion hyn yn Nawns Siglo Gwen Gwenynen i ymgorffori’r Ffrangeg ymhob gweithgaredd.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Dawns Siglo Gwen Gwenynen; Termau Dwyieithog – Sbaeneg
Defnyddiwch yr ymadroddion hyn yn Nawns Siglo Gwen Gwenynen i ymgorffori’r Sbaeneg ymhob gweithgaredd.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Dawns Siglo Gwenan Gwenynen – Casglu Adnoddau

Mae Gwen Gwenynen yn wenynen fach garedig, gofalgar a mentrus. Mae hi wrth ei bodd yn hedfan gyda’i ffrindiau a chasglu paill gan y blodau hardd. Un diwrnod mae hi’n deffro ac yn gweld bod y gwenyn yng Nghwch Coed y Mêl wedi mynd yn sâl ar ôl yfed dŵr brwnt o’r afon leol. Mae Gwen Gwenynen yn llawn egni ac yn awyddus i ddod o hyd i gyflenwad o ddŵr glân da ar gyfer y gwenyn yn y cwch. Mae hi’n hedfan i fynd ar ei hantur ac yn cwrdd â ffrindiau newydd ar ei thaith. Mae Gwen yn dysgu bod partneriaethau a chyfeillgarwch yn bwysig iawn ac wrth weithio gyda’ch gilydd gallwch chi gyflawni llawer mwy na gweithio ar eich pen eich hun.

Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Dawns Siglo Gwenan Gwenynen – Llyfr Stori

Mae Gwenan Gwenyn yn deffro i ganfod fod ei ffrindiau, y gwenyn yng nghwch Coed y Mêl, wedi mynd yn sâl ar ôl yfed dŵr budr. Mae Gwenan yn llawn egni, ac yn mynd i chwilio am gyflenwad o ddŵr glân ffres i’r cwch. Mae’n hedfan i ffwrdd ar ei hantur, ac yn cyfarfod ffrindiau newydd ar hyd y ffordd. Mae Gwenan yn dysgu bod partneriaid a ffrindiau yn bwysig, ac wrth gydweithio, gallwch gyflawni llawer mwy na gweithio ar eich pen eich hun.

Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Dod yn adolygydd ffilm
Penderfynwch ar ffilm i’w gwylio gyda’ch teulu cyfan, gofynnwch i’r plant gwblhau’r templed ac adolygu’r ffilm rydych chi’n penderfynu ei gwylio. Gofynnwch iddyn nhw esbonio llinell y stori, pwy oedd eu hoff gymeriad a beth oedd eu hoff ran.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6

Lawrlwytho Adnoddau Llyfrau

Login to your account