Rydym yn awyddus i gysylltu busnesau ac ysgolion cynradd…

We are looking to connect businesses with primary schools… Find out more

Rydych chi wedi allgofnodi ar hyn o bryd.

neu

eich ysgol i lawrlwytho adnoddau

Dawns Siglo Gwenan Gwenynen

Mae Gwen yn ceisio dod o hyd i ddŵr glân i wella’r gwenyn bach sâl. Mae’n cyfarfod ffrindiau newydd ac yn datblygu sgiliau newydd ar ei thaith.
Mae Gwen yn wenynen bach caredig, meddylgar a mentrus. Mae hi wrth ei bodd yn hedfan gyda’i ffrindiau sy’n wenyn a chasglu paill oddi wrth flodau prydferth. Un diwrnod mae’n deffro i ganfod bod gwenyn y cwch gwenyn yn sâl ar ôl yfed dŵr budr o’r afon leol. Mae Gwen yn llawn egni ac yn awyddus i ddod o hyd i gyflenwad dŵr ffres, glân ar gyfer y gwenyn. Mae hi’n hedfan i ffwrdd ar ei hantur ac yn cyfarfod ffrindiau newydd ar hyd y ffordd. Mae Gwen yn dysgu pwysigrwydd partneriaethau a chyfeillgarwch a sylweddola bod cydweithio yn golygu bod modd cyflawni tipyn mwy na gweithio ar eich pen eich hun.
Gweithgareddau

Gweithgaredd i ddatblygu a dangos sgiliau entrepreneuraidd – rhoi’r dysgu o lyfrau Gwenyn Coed y Mêl a’r adnoddau addysgu atodol ar waith.

Cynlluniau gwersi

Cynllun manwl i gynorthwyo athrawon i gyflwyno gwers sy’n ymroddedig i ddatblygu meddylfryd entrepreneuraidd. Gan dynnu sylw at feysydd dysgu a sgiliau allweddol a astudiwyd, bydd y canllaw gwersi hwn yn nodi’r adnoddau priodol sydd eu hangen ar gyfer gweithgareddau a hefyd opsiynau gwahaniaethu ar gyfer galluoedd amrywiol.

Cyflwyniadau

Cyflwyniad PowerPoint i gefnogi’r ddealltwriaeth o themâu amrywiol a astudiwyd yn llyfrau Gwenyn Coed y Mêl ac atgyfnerthu’r sgiliau sydd eu hangen i ddatblygu meddylfryd entrepreneuraidd.

Opsiynau lawrlwytho

Ar gyfer lawrlwytho diderfyn
a chofrestrmynediad i dderbyn gwybodaeth am Wenyn Coed y Mêl.

Dawns Siglo Gwenan Gwenynen Adnoddau Menter

Archwiliwch yr adnoddau gan ddefnyddio’r amryw gategorïau yn dibynnu are eich thema neu’ch deilliannau dysgu dewisol. Gadewch yr hidlydd categori ar ‘POPETH’ os nad oes gennych ddewis penodol neu os hoffech ehangu’r dewis o adnoddau.

Hidlo Adnoddau Llyfrau

Lawrlwytho Adnoddau Llyfrau

Ysgrifennu cardiau her
Lawrlwythwch ein 10 cerdyn her ysgrifennu. Defnyddiwch y rhain i ysbrydoli eich plant i fod yn greadigol, defnyddio eu sgiliau ysgrifennu a’u dychymyg.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6

Lawrlwytho Adnoddau Llyfrau

1 4 5 6

Login to your account