Rydym yn awyddus i gysylltu busnesau ac ysgolion cynradd…

We are looking to connect businesses with primary schools… Find out more

Rydych chi wedi allgofnodi ar hyn o bryd.

neu

eich ysgol i lawrlwytho adnoddau

Dawns Siglo Gwenan Gwenynen

Mae Gwen yn ceisio dod o hyd i ddŵr glân i wella’r gwenyn bach sâl. Mae’n cyfarfod ffrindiau newydd ac yn datblygu sgiliau newydd ar ei thaith.
Mae Gwen yn wenynen bach caredig, meddylgar a mentrus. Mae hi wrth ei bodd yn hedfan gyda’i ffrindiau sy’n wenyn a chasglu paill oddi wrth flodau prydferth. Un diwrnod mae’n deffro i ganfod bod gwenyn y cwch gwenyn yn sâl ar ôl yfed dŵr budr o’r afon leol. Mae Gwen yn llawn egni ac yn awyddus i ddod o hyd i gyflenwad dŵr ffres, glân ar gyfer y gwenyn. Mae hi’n hedfan i ffwrdd ar ei hantur ac yn cyfarfod ffrindiau newydd ar hyd y ffordd. Mae Gwen yn dysgu pwysigrwydd partneriaethau a chyfeillgarwch a sylweddola bod cydweithio yn golygu bod modd cyflawni tipyn mwy na gweithio ar eich pen eich hun.
Gweithgareddau

Gweithgaredd i ddatblygu a dangos sgiliau entrepreneuraidd – rhoi’r dysgu o lyfrau Gwenyn Coed y Mêl a’r adnoddau addysgu atodol ar waith.

Cynlluniau gwersi

Cynllun manwl i gynorthwyo athrawon i gyflwyno gwers sy’n ymroddedig i ddatblygu meddylfryd entrepreneuraidd. Gan dynnu sylw at feysydd dysgu a sgiliau allweddol a astudiwyd, bydd y canllaw gwersi hwn yn nodi’r adnoddau priodol sydd eu hangen ar gyfer gweithgareddau a hefyd opsiynau gwahaniaethu ar gyfer galluoedd amrywiol.

Cyflwyniadau

Cyflwyniad PowerPoint i gefnogi’r ddealltwriaeth o themâu amrywiol a astudiwyd yn llyfrau Gwenyn Coed y Mêl ac atgyfnerthu’r sgiliau sydd eu hangen i ddatblygu meddylfryd entrepreneuraidd.

Opsiynau lawrlwytho

Ar gyfer lawrlwytho diderfyn
a chofrestrmynediad i dderbyn gwybodaeth am Wenyn Coed y Mêl.

Dawns Siglo Gwenan Gwenynen Adnoddau Menter

Archwiliwch yr adnoddau gan ddefnyddio’r amryw gategorïau yn dibynnu are eich thema neu’ch deilliannau dysgu dewisol. Gadewch yr hidlydd categori ar ‘POPETH’ os nad oes gennych ddewis penodol neu os hoffech ehangu’r dewis o adnoddau.

Hidlo Adnoddau Llyfrau

Lawrlwytho Adnoddau Llyfrau

Geiriau Dawns Siglo
Lawrlwythwch y geiriau i Ddawns Siglo Gwen Gwenynen i’w dysgu cyn i chi ddechrau gwneud eich dawns eich hun.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Gêm tactegau
Mae’r gêm dacteg hon yn ymwneud â gwaith tîm, cyfathrebu a chymryd risg. Gweithiwch mewn timau bach a dychmygwch eich bod yn un o deulu’r Gwenyn yn casglu’r paill. Eich nod yw gollwng eich peli o baill i mewn i fwcedi gwahanol. Bydd gennych 5 cyfle i daflu’r bêl i un o’r 3 bwced. Mae gan bob bwced werth pwynt gwahanol. Sylwch faint o bwyntiau rydych chi’n eu casglu a phenderfynu pa dactegau y byddwch chi’n eu defnyddio.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Gwerthu hen degan
Os yw’ch plant wedi tyfu allan o rai teganau anogwch nhw i feddwl am ffyrdd o’u gwerthu i wneud arian ar gyfer teganau newydd, neu eu rhoi i rywun nad oes ganddo unrhyw deganau. Ymchwiliwch i’r ffyrdd y gallent werthu eu teganau. Gallech hyd yn oed gynnal eich arwerthiant teganau eich hun gyda theulu a ffrindiau.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Gwneud gwesty gwenyn
Defnyddiwch y syniadau hyn i greu, dylunio a gwneud gwenyn eich hun. Byddwch yn greadigol a defnyddiwch beth bynnag sydd gennych gartref. Ymchwiliwch i bwysigrwydd achub y gwenyn a’r amodau gorau iddynt fyw ynddynt.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Gwneud pyped bys
Lawrlwythwch y cyfarwyddiadau i wneud pyped bys. Byddwch yn greadigol a gwnewch eich pyped gwenyn eich hun, gan ddefnyddio pa ddeunyddiau bynnag sydd gennych yn y tŷ.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Her Dawns Siglo Gwen Gwenynen
Cynhaliwch eich Dawns Byg Hyll eich hun. Anogwch y plant i gynllunio’r digwyddiad cyfan. Meddyliwch am fwyd, cerddoriaeth, thema a phwy y byddant yn eu gwahodd. Cofiwch fod yn greadigol a meddwl y tu allan i’r bocs.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Her Gwenyn Bot
Defnyddiwch ein mat Gwenynen i fynd â’ch bot gwenyn ar eu hantur eu hunain trwy Goed y Mêl. Lawrlwythwch y cardiau her a heriwch y dosbarth i godio eu Gwenyn Bot o amgylch y mat.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Llyfr Dawns Siglo Gwen Gwenynen (fideo)
Gwyliwch y recordiad fideo o lyfr stori Dawns Siglo Gwen Gwenynen.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6

Lawrlwytho Adnoddau Llyfrau

Login to your account