Rydym yn awyddus i gysylltu busnesau ac ysgolion cynradd…

We are looking to connect businesses with primary schools… Find out more

Rydych chi wedi allgofnodi ar hyn o bryd.

neu

eich ysgol i lawrlwytho adnoddau

Storm Siwsi

Mae storm ofnadwy ar ei ffordd i Goed y Mêl. Mae’r tywydd yn newid a’r gwynt a’r glaw ar fin llifo i gwm Coed y Mêl.
Mae’r gwenyn a’r creaduriaid eraill yn gorfod symud eu teuluoedd a’u trysorau i le diogel rhag y storm. Mae Gwenan a Gwilym yn achub y dydd wrth ddylunio ac adeiladu lle diogel i’r holl greaduriaid gysgodi yn ddiogel rhag y storm.
Gweithgareddau

Gweithgaredd i ddatblygu a dangos sgiliau entrepreneuraidd – rhoi’r dysgu o lyfrau Gwenyn Coed y Mêl a’r adnoddau addysgu atodol ar waith.

Cynlluniau gwersi

Cynllun manwl i gynorthwyo athrawon i gyflwyno gwers sy’n ymroddedig i ddatblygu meddylfryd entrepreneuraidd. Gan dynnu sylw at feysydd dysgu a sgiliau allweddol a astudiwyd, bydd y canllaw gwersi hwn yn nodi’r adnoddau priodol sydd eu hangen ar gyfer gweithgareddau a hefyd opsiynau gwahaniaethu ar gyfer galluoedd amrywiol.

Cyflwyniadau

Cyflwyniad PowerPoint i gefnogi’r ddealltwriaeth o themâu amrywiol a astudiwyd yn llyfrau Gwenyn Coed y Mêl ac atgyfnerthu’r sgiliau sydd eu hangen i ddatblygu meddylfryd entrepreneuraidd.

Opsiynau lawrlwytho

Ar gyfer lawrlwytho diderfyn
a chofrestrmynediad i dderbyn gwybodaeth am Wenyn Coed y Mêl.

Storm Siwsi Adnoddau Menter

Archwiliwch yr adnoddau gan ddefnyddio’r amryw gategorïau yn dibynnu are eich thema neu’ch deilliannau dysgu dewisol. Gadewch yr hidlydd categori ar ‘POPETH’ os nad oes gennych ddewis penodol neu os hoffech ehangu’r dewis o adnoddau.

Hidlo Adnoddau Llyfrau

Lawrlwytho Adnoddau Llyfrau

Beth fyddech chi’n cludo?
Yn y cyflwyniad hwn, bydd angen i ddisgyblion ddewis eitemau o wahanol gategorïau y byddent yn cludo gyda hwy i'r arch , e.e. bwyd, dillad ayb.
Gweld adnodd
Ages 7 & 8
Beth fyddech chi’n cludo?
Herio disgyblion i ddyfeisio cit goroesi trychineb naturiol, bydd angen dewis 5 eitem i gludo gyda nhw gan gynnig resymau dilys am eu dewisiadau.
Gweld adnodd
Ages 7 & 8
Cit Goroesi Trychineb Naturiol
Defnyddio'r templed i recordio'u eitemau dewisol ar gyfer y cit goroesi a'r rhesymau pam iddynt gael eu dewis. Yna ysgrifennu a chyflwyno dadl darbwyllol am eu dewisiadau.
Gweld adnodd
Ages 7 & 8
Cynllunio Adroddiad Newyddion
Defnyddio'r templed i gynllunio'u adroddiad teledu.
Gweld adnodd
Ages 7 & 8
Fy Adroddiad Teledu
Defnyddio'r templed i ysgrifennu'r adroddiad teledu gan ddefnyddio cwestiynau penodol a'u cynlluniau.
Gweld adnodd
Ages 7 & 8
Gwerthuso Ydy’r Cwch yn Arnofio
Defnyddio'r templed i gwblhau gwerthusiad o'u dyluniadau.
Gweld adnodd
Ages 7 & 8
Her – Storm Siwsi
Her Bychan - Dylunio a chreu cartref newydd ar gyfer y gwenyn wedi i'r storm orffen.
Gweld adnodd
Ages 7 & 8
Her Croesi’r Afon
Herio disgyblion i gydweithio fel tîm i ddatrys problem croesi'r 'afon' gan ddefnyddio cerrig stepiau yn unig (darnau o bapur A4).
Gweld adnodd
Ages 7 & 8

Lawrlwytho Adnoddau Llyfrau

1 2 3

Login to your account