Rydym yn awyddus i gysylltu busnesau ac ysgolion cynradd…

We are looking to connect businesses with primary schools… Find out more

Rydych chi wedi allgofnodi ar hyn o bryd.

neu

eich ysgol i lawrlwytho adnoddau

Dawns Siglo Gwenan Gwenynen

Mae Gwen yn ceisio dod o hyd i ddŵr glân i wella’r gwenyn bach sâl. Mae’n cyfarfod ffrindiau newydd ac yn datblygu sgiliau newydd ar ei thaith.
Mae Gwen yn wenynen bach caredig, meddylgar a mentrus. Mae hi wrth ei bodd yn hedfan gyda’i ffrindiau sy’n wenyn a chasglu paill oddi wrth flodau prydferth. Un diwrnod mae’n deffro i ganfod bod gwenyn y cwch gwenyn yn sâl ar ôl yfed dŵr budr o’r afon leol. Mae Gwen yn llawn egni ac yn awyddus i ddod o hyd i gyflenwad dŵr ffres, glân ar gyfer y gwenyn. Mae hi’n hedfan i ffwrdd ar ei hantur ac yn cyfarfod ffrindiau newydd ar hyd y ffordd. Mae Gwen yn dysgu pwysigrwydd partneriaethau a chyfeillgarwch a sylweddola bod cydweithio yn golygu bod modd cyflawni tipyn mwy na gweithio ar eich pen eich hun.
Gweithgareddau

Gweithgaredd i ddatblygu a dangos sgiliau entrepreneuraidd – rhoi’r dysgu o lyfrau Gwenyn Coed y Mêl a’r adnoddau addysgu atodol ar waith.

Cynlluniau gwersi

Cynllun manwl i gynorthwyo athrawon i gyflwyno gwers sy’n ymroddedig i ddatblygu meddylfryd entrepreneuraidd. Gan dynnu sylw at feysydd dysgu a sgiliau allweddol a astudiwyd, bydd y canllaw gwersi hwn yn nodi’r adnoddau priodol sydd eu hangen ar gyfer gweithgareddau a hefyd opsiynau gwahaniaethu ar gyfer galluoedd amrywiol.

Cyflwyniadau

Cyflwyniad PowerPoint i gefnogi’r ddealltwriaeth o themâu amrywiol a astudiwyd yn llyfrau Gwenyn Coed y Mêl ac atgyfnerthu’r sgiliau sydd eu hangen i ddatblygu meddylfryd entrepreneuraidd.

Opsiynau lawrlwytho

Ar gyfer lawrlwytho diderfyn
a chofrestrmynediad i dderbyn gwybodaeth am Wenyn Coed y Mêl.

Dawns Siglo Gwenan Gwenynen Adnoddau Menter

Archwiliwch yr adnoddau gan ddefnyddio’r amryw gategorïau yn dibynnu are eich thema neu’ch deilliannau dysgu dewisol. Gadewch yr hidlydd categori ar ‘POPETH’ os nad oes gennych ddewis penodol neu os hoffech ehangu’r dewis o adnoddau.

Hidlo Adnoddau Llyfrau

Lawrlwytho Adnoddau Llyfrau

Llyfr Dawns Siglo Gwen Gwenynen (tudalennau)
Chwiliwch am holl ddelweddau yr holl dudalennau llaw dde fel y gallwch weld Dawns Siglo Gwen Gwenynen ar y sgrîn wen.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Map stori
Lawrlwythwch fap stori Taith Gwen. Anogwch bob un o’r plant i greu eu map stori eu hunain gan ddefnyddio’r templed a ddarperir.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Mat Gwenyn Bot
Lawrlwythwch y mat Gwenyn Bot i’w argraffu a’i lawrlwytho er mwyn i Goed y Mêl fedru dod yn fyw yn eich ystafell ddosbarth. Defnyddiwch hwn gyda’ch cardiau her Gwenyn Bot i symud o gwmas Coed y Mêl.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Plentyn dyfeisgar
Edrychwch o gwmpas eich cartref a’ch eitemau ailgylchu yr oeddech am eu taflu. Casglwch nhw a’u glanhau, a meddyliwch am yr hyn y gallwch ei ddyfeisio. Defnyddiwch y deunyddiau i greu eich prototeip ar gyfer dyfais newydd.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Taflen waith taith Gwenyn Bot
Tynnwch lun eich grid Gwenyn Bot eich hun ar y daflen waith a ddarparwyd ac ewch â’ch gwenynen Bot ar ei antur ei hun.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Taith Gwen
Mae Gwen yn mynd ar daith i ddod o hyd i ddŵr ffres i achub ei ffrindiau sâl. Defnyddiwch y tirnodau o’r stori y mae Gwen yn mynd heibio iddyn nhw a dechreuwch greu eich map stori eich hun.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Taith Gwen
Lawrlwythwch y toriadau o’r tirnodau yng Nghoed y Mêl. Mae Gwen yn mynd ar daith bwysig iawn i achub ei ffrindiau, y gwenyn sâl. Defnyddiwch y tirnodau i wneud eich map stori eich hun ar gyfer Taith Gwen. .
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Waggle Dance – Lesson Plan

In groups ask the pupils to think of actions to go with the Waggle Dance lyrics. Each team can perform their version of the Waggle Dance to the rest of the class.

Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6

Lawrlwytho Adnoddau Llyfrau

Login to your account