Rydym yn awyddus i gysylltu busnesau ac ysgolion cynradd…

We are looking to connect businesses with primary schools… Find out more

Rheolwr Datblygu Busnes

Rheolwr Datblygu Busnes

-

Llawn Amser

Mae gennym gyfle cyffrous i Reolwr Datblygu Busnes llawn amser i weithio gyda busnes addysg menter arloesol newydd. Mae 2B Enterprising yn creu ac yn darparu adnoddau datblygu sgiliau i ysgolion cynradd – gyda chefnogaeth busnesau lleol, er mwyn sicrhau ein bod yn creu’r genhedlaeth nesaf o ddinasyddion uchelgeisiol, mentrus, hyderus a moesegol.  

Byddwch yn gyfrifol am ddatblygu busnes newydd drwy rannu buddion rhaglen Gwenyn Coed y Mêl gyda sefydliadau bach a mawr sy’n edrych ar fuddsoddi mewn cyfleoedd gwerthfawr ymgysylltu â’r gymuned.

Eich cyfrifoldebau:  

  • Datblygu llif busnes newydd i 2B Enterprising gan ddefnyddio gwahanol ddulliau estyn allan megis (ond heb fod yn gyfyngedig i) cyfarfodydd wyneb yn wyneb, digwyddiadau rhwydweithio, rhwydweithiau cymdeithasol, galwadau diwahoddiad, cyfeiriadau ac ati.
  • Rheoli llif gwerthiannau posibl, gan eu trosi’n refeniw yn unol â thargedau gwerthu.
  • Hwyluso trosglwyddo trawsnewid o fusnesau sydd wedi’u cadarnhau yn bartneriaid i gydweithwyr yn y Tîm Gweithrediadau/Cyflwyno er mwyn iddyn nhw allu cysylltu’r busnes gydag Ysgolion Cynradd penodol.
  • Adeiladu perthnasoedd cadarn gyda Phartneriaid Ymgysylltu Corfforaethol presennol drwy ddiweddariadau cymunedol a galwadau gwirio i annog ymgysylltu ac i sicrhau adnewyddu blynyddol.
  • Cysylltu gyda’r Tîm Gweithrediadau i ganfod partneriaid addas ar gyfer yr Ysgolion Cynradd hynny sydd eisoes wedi cofrestru eu diddordeb yn ein rhaglenni.
  • Cynyddu ymgysylltu gyda chymuned y busnes/yr ysgol drwy weithgaredd a rhwydweithiau cyfryngau cymdeithasol.
  • Cynrychioli 2B Enterprising yn gadarnhaol yn y gymuned fusnes.
  • Cyflwyno adroddiadau gwerthiant, ystadegau ac adborth partneriaethau i’r Cyfarwyddwr Masnachol.

Cymwysterau a phrofiad:

  • Profiad helaeth mewn amgylchedd Datblygu Busnesau – yn gweithio tuag at dargedau gwerthu/dangosyddion perfformiad allweddol.
  • Agwedd gadarnhaol tuag at addysg ac ysbrydoli eraill. 
  • Yn ffynnu wrth weithio mewn amgylchedd sy’n symud yn gyflym.
  • Trwydded yrru ddilys y DU.

Math o Swydd: Llawn amser (Llun-Gwener 9am-5pm)

Y Pecyn:

  • Cyflog Sylfaenol: £30k y flwyddyn a chomisiwn yn seiliedig ar berfformiad
  • Gliniadur cwmni
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol (ac eithrio Gwyliau Banc)
  • Pensiwn y Gweithle
  • Cynllun Cyfrannau Gweithwyr Dewisol

Gwneud cais: I wneud cais am y rôl hon, anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol yn esbonio pam eich bod yn teimlo eich bod yn addas ar gyfer y rôl a beth fyddech chi’n ei gynnig i’r tîm.

Anfonwch e-bost gyda manylion at Jayne Brewer: Jayne@2benterprising.co.uk

Am ragor o wybodaeth e-bostiwch info@2benterprising.co.uk

Dyddiad Postio:

June 7, 2023

Sefydliad sy'n Cyflogi

2B Enterprising

Lleoliad

2B Enterprising

Business Suites St Helen's Rugby and Cricket Club Bryn Road,

Swansea,

UK,

SA2 0AR

Cyflog

£30k y flwyddyn a chomisiwn yn seiliedig ar berfformiad -

Llawn Amser

Bee with baseball campaign

Current Vacancies

Positions available at 2B Enterprising