Taith Gwen

Taith Gwen Adnoddau menter

Archwiliwch yr adnoddau gan ddefnyddio’r amryw gategorïau yn dibynnu are eich thema neu’ch deilliannau dysgu dewisol. Gadewch yr hidlydd categori ar ‘POPETH’ os nad oes gennych ddewis penodol neu os hoffech ehangu’r dewis o adnoddau.

Hidlo Adnoddau

Lawrlwytho Adnoddau

Bod yn iachus
Defnyddiwch y cyflwyniad i feddwl beth yw ystyr bod yn iach. Dysgwch am ymarfer corff a deiet cytbwys a pha mor bwysig yw’r rhain i fyw bywyd hapus ac iach.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Cân Dawns Siglo
Chwaraewch y gân i ddysgu Dawns Siglo Gwen Gwenynen. Mwynhewch wrando ar y gerddoriaeth a dysgu’r geiriau cyn i chi wneud eich dawns eich hun.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Cofnod ymarfer corff (GI)
Cwblhewch y cofnod ymarfer corff, gwnewch ragfynegiad o faint o bob ymarfer gallwch chi ei wneud mewn 3 munud a chofnodwch y cyfanswm maent wedi’i gwblhau.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Cofnod ymarfer corff (GU)
Cwblhewch y cofnod ymarfer corff, gwnewch ragfynegiad o faint o bob ymarfer gallwch chi ei wneud mewn 3 munud. Cyfrifwch y cyfanswm a gwblhawyd ganddynt a’r gwahaniaeth rhwng eu rhagfynegiad a’r cyfanswm.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Map stori
Lawrlwythwch fap stori Taith Gwen. Anogwch bob un o’r plant i greu eu map stori eu hunain gan ddefnyddio’r templed a ddarperir.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Taith Gwen
Mae Gwen yn mynd ar daith i ddod o hyd i ddŵr ffres i achub ei ffrindiau sâl. Defnyddiwch y tirnodau o’r stori y mae Gwen yn mynd heibio iddyn nhw a dechreuwch greu eich map stori eich hun.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Taith Gwen
Lawrlwythwch y toriadau o’r tirnodau yng Nghoed y Mêl. Mae Gwen yn mynd ar daith bwysig iawn i achub ei ffrindiau, y gwenyn sâl. Defnyddiwch y tirnodau i wneud eich map stori eich hun ar gyfer Taith Gwen. .
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Ymarferion gwenyn
Plant i ddwyn i gof y digwyddiadau allweddol yn y llyfr ‘Siapiwch Hi Wenyn’. Trefnodd Gwenan a Gwenlli ddosbarth ffitrwydd ddyddiol ar gyfer yr holl wenyn yn y cwch gwenyn i’w helpu i gadw’n heini ac iach. Trafodwch gyda’r plant beth mae cadw’n heini yn ei olygu.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6

Lawrlwytho Adnoddau