Rydym yn awyddus i gysylltu busnesau ac ysgolion cynradd…

We are looking to connect businesses with primary schools… Find out more

Aelod o’r tîm addysg

Aelod o’r tîm addysg

-

Ar Ei Liwt Ei Hun

Oes gennych chi brofiad o weithio gyda phlant ifanc ac angerdd dros ddatblygu eu sgiliau menter?

Mae gennym gyfle cyffrous i weithio gyda busnes addysg menter arloesol wedi’i leoli yn Abertawe.

Mae 2B Enterprising yn creu ac yn darparu adnoddau menter i ysgolion cynradd – ariannwyd gan fusnesau lleol, er mwyn sicrhau ein bod yn creu’r genhedlaeth nesaf o ddinasyddion uchelgeisiol, mentrus, hyderus a moesegol.

Yn gweithio fel rhan o dîm bychan, mae angen amrywiaeth o bobl arnom ni sy’n barod i gyflwyno ein rhaglen mewn ysgolion cynradd ar draws y DU. De Cymru a De Orllewin Lloegr yn bennaf.

Dyletswyddau:

  • Cyflwyno ac esbonio Rhaglen Gwenyn Coed y Mêl i’r Partner Busnes ac i staff mewn ysgolion cynradd.
  • Sicrhau bod y Partner Busnes yn cael ei groesawu i’r ysgol a bod yr athrawon yn deall sut mae’r rhaglen yn cael ei chyllido.
  • Ymgyfarwyddo gyda chwmni’r Partner Busnes cyn i chi gwrdd â nhw.
  • Cyflwyno sesiynau gweithgaredd mewn ysgolion cynradd (sesiwn 45 munud i ddosbarthiadau o hyd at 40 o blant).
  • Darllen straeon o raglen y Gwenyn i’r plant mewn ffordd sy’n gyffrous ac yn denu eu sylw.
  • Arddangos rheolaeth effeithiol yn y dosbarth gydag amrediad o alluoedd dysgu.
  • Ymgysylltu a chyfathrebu gyda’r ysgol i drefnu dyddiadau am sesiynau dilynol a thrafod unrhyw faterion neu gwestiynau.
  • Casglu adborth gan ysgolion ar ffyrdd i wella’r rhaglen.
  • Cwblhau ffurflenni cyflwyno ar ôl y gweithgaredd i gasglu gwybodaeth yn dilyn y sesiwn.
  • Rheoli eich dyddiadur eich hun drwy drefnu’r ymweliadau nesaf â’r ysgolion a chyfathrebu gyda’r tîm gweithrediadau.
  • Parodrwydd i deithio o ysgol i ysgol a gwneud nifer o sesiynau cyflwyno bob dydd.
  • Cynrychioli 2B Enterprising yn gadarnhaol yn yr ysgolion a hynny mewn dull proffesiynol.
  • Casglu ac adnewyddu adnoddau o’r brif swyddfa yn Abertawe.
  • Mynychu unrhyw gyfarfodydd hyfforddi naill ai dros Teams neu wyneb yn wyneb.

Cymwysterau a phrofiad:

Bydd angen y canlynol arnoch chi:

  • Cymhwyster addysgu neu brofiad yn gweithio gyda phlant ifanc.
  • Unrhyw brofiad perthnasol yn yr ystafell ddosbarth.
  • Trwydded Yrru llawn y DU (ac mae angen yswiriant at ddiben busnes).
  • Angerdd dros weithio gyda phobl ifanc a’r gallu i weld budd addysg menter.
  • Agwedd gadarnhaol tuag at addysgu ac ysbrydoli eraill.

Nodweddion Personol Dymunol

Rydyn ni’n chwilio am unigolyn brwdfrydig, cymelledig ac uchelgeisiol i ymuno â’n tîm bychan.  Rydyn ni’n croesawu agwedd gadarnhaol ‘gallu gwneud’, rhywun sy’n angerddol am ei waith.

Rydyn ni’n chwilio am aelod dibynadwy o dîm sy’n gallu bod yn hyblyg i allu ymateb i ofynion sesiynau cyflwyno a theithio. Rydyn ni angen rhywun sydd â sgiliau trefnu rhagorol a’r gallu i gydbwyso nifer o dasgau ar yr un pryd ac a fydd yn ffynnu mewn amgylchedd sy’n symud yn gyflym gyda’r gallu i weithio’n annibynnol ac mewn tîm.

Fel rhan o’n tîm cyflwyno rydyn ni’n chwilio am rywun sy’n hyderus wrth arwain sesiynau gyda phlant rhwng 5 a 9 oed ac wrth ymgysylltu â staff addysgu ac ysgolion cynradd.

Wrth i ni ddechrau tyfu a chysylltu gyda rhagor o ysgolion, mae angen rhywun arnom sy’n ddibynadwy, yn drefnus ac yn brydlon, sy’n gallu cyflwyno un o rannau mwyaf gwerthfawr ein rhaglen.

Os ydych chi’n angerddol dros ddatblygu’r genhedlaeth nesaf ac am ymuno â’n tîm, cysylltwch â ni heddiw gyda CV a llythyr eglurhaol at rhiannon@2benterprising.co.uk. Cais.

Trefniadau Cyfweliad

Os byddwch yn llwyddiannus, cewch eich gwahodd am gyfweliad yn y Pencadlys (Abertawe); bydd angen i chi ddod â phrawf hunaniaeth gyda chi ac unrhyw dystysgrifau perthnasol. Bydd angen gwiriad DBS cyfredol er mwyn darparu ar ran 2B Enterprising Cyf, ond fydd staff byth yn cael eu gadael ar eu pennau eu hunain gyda dosbarth (mae gofyn bod athro/cynorthwyydd dosbarth yn bresennol yn ystod pob sesiwn).

Math o Swydd: Rhan amser, Llawrydd

Tâl: I’w drefnu gan ddibynnu ar brofiad.  

Am ragor o wybodaeth e-bostiwch info@2benterprising.co.uk

Dyddiad Postio:

June 6, 2023

Sefydliad sy'n Cyflogi

2BEnterprising

Lleoliad

2BEnterprising

Business Suites St Helen's Rugby and Cricket Club Bryn Road,

Swansea,

UK,

SA2 0AR

Cyflog

I'w drefnu gan ddibynnu ar brofiad - Ar ei liwt ei hun -

Ar Ei Liwt Ei Hun

Bee with baseball campaign

Current Vacancies

Positions available at 2B Enterprising