Rydym yn awyddus i gysylltu busnesau ac ysgolion cynradd…

We are looking to connect businesses with primary schools… Find out more

Rydych chi wedi allgofnodi ar hyn o bryd.

neu

eich ysgol i lawrlwytho adnoddau

Antur Fawr Gwyn Gwenyn

Mae Gwyn yn derbyn her y Frenhines Dilia i arwain y gwenyn at gartref newydd. Mae ganddo benderfyniadau mawr i’w gwneud gyda help ei deulu a’i ffrindiau.
Wrth i Gwyn aros i’w adain wella, mae’n dod yn gyfaill i’r Frenhines Dilia – Brenhines cwch gwenyn Coed y Mêl. Mae’n dweud wrth Gwyn bod y cwch gwenyn yn tyfu ac yn fuan bydd angen dod o hyd i gartref newydd, gan wneud lle i Frenhines newydd a haid arall o wenyn gweithgar. Mae’r Frenhines yn ymddiried yn Gwyn ac yn gofyn iddo ei helpu i arwain yr haid at gartref newydd. Nid yw Gwyn yn sicr a yw’n ddigon cryf ar gyfer swydd mor arbennig ac mae’n poeni sut y bydd ei fywyd yn newid os bydd yn symud i ffwrdd o’i deulu. Mae teulu a ffrindiau Gwyn yn ei atgoffa pa mor arbennig ydyw a phaham y dewisodd Y Frenhines ef ar gyfer swydd mor bwysig. Mae Gwyn yn cael ei atgoffa o bwysigrwydd hunan gred ac arddangos sgiliau arwain tra’n helpu i wneud gwahaniaeth mawr.
Gweithgareddau

Gweithgaredd i ddatblygu a dangos sgiliau entrepreneuraidd – rhoi’r dysgu o lyfrau Gwenyn Coed y Mêl a’r adnoddau addysgu atodol ar waith.

Cynlluniau gwersi

Cynllun manwl i gynorthwyo athrawon i gyflwyno gwers sy’n ymroddedig i ddatblygu meddylfryd entrepreneuraidd. Gan dynnu sylw at feysydd dysgu a sgiliau allweddol a astudiwyd, bydd y canllaw gwersi hwn yn nodi’r adnoddau priodol sydd eu hangen ar gyfer gweithgareddau a hefyd opsiynau gwahaniaethu ar gyfer galluoedd amrywiol.

Cyflwyniadau

Cyflwyniad PowerPoint i gefnogi’r ddealltwriaeth o themâu amrywiol a astudiwyd yn llyfrau Gwenyn Coed y Mêl ac atgyfnerthu’r sgiliau sydd eu hangen i ddatblygu meddylfryd entrepreneuraidd.

Opsiynau lawrlwytho

Ar gyfer lawrlwytho diderfyn
a chofrestrmynediad i dderbyn gwybodaeth am Wenyn Coed y Mêl.

Antur Fawr Gwyn Gwenyn Adnoddau Menter

Archwiliwch yr adnoddau gan ddefnyddio’r amryw gategorïau yn dibynnu are eich thema neu’ch deilliannau dysgu dewisol. Gadewch yr hidlydd categori ar ‘POPETH’ os nad oes gennych ddewis penodol neu os hoffech ehangu’r dewis o adnoddau.

Hidlo Adnoddau Llyfrau

Lawrlwytho Adnoddau Llyfrau

Beth y mae gwyddonydd yn ei wneud
Defnyddiwch y fideos i ddysgu am yr hyn y mae gwyddonydd yn ei wneud, yna cwblhewch eich arbrawf gwyddonol eich hun gan ddefnyddio hylif lliwi bwyd a dŵr. Ceisiwch wneud patrymau a lliwiau gwahanol a byddwch yn greadigol gyda’ch dyluniadau..
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Beth yw gwesty gwenyn?
Defnyddiwch y cyflwyniad i ddysgu’r plant beth yw gwesty gwenyn, ble rydych chi’n rhoi gwesty gwenyn a sut i wybod a oes gan eich gwesty gwenyn westeion. Bydd hyn yn ysbrydoli’r plant o ran dylunio a gwneud eu gwestai gwenyn eu hunain.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Creaduriaid – Delweddau
Argraffwch y delweddau o greaduriaid a’u gosod o amgylch y bwrdd. Defnyddiwch y creaduriaid gyda’r print llefydd i gyfateb creaduriaid â’u cynefin cywir.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Cwis bingo gwenyn
Lawrlwythwch ein cardiau Bingo Sïo Gwenyn. Anogwch y plant i fynd o amgylch y tŷ i ddod o hyd i’r eitemau ar eu cerdyn bingo. Pan fyddant wedi dod o hyd iddynt, ticiwch yr eitem ar eu cerdyn. Sylwch sawl un gallan nhw ei gasglu. Mae’r person cyntaf i gwblhau’r holl flychau yn ennill gwobr.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Cyfarwyddiadau gwesty fy ngwenyn
Ar ôl dylunio’r gwesty mewn grwpiau, anogwch bob un o’r plant i feddwl sut y byddan nhw’n gwneud eu dyluniad gwesty. Cofiwch ddefnyddio cyfarwyddiadau clir a meddyliwch beth fydd ei angen arnynt.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Cynefinoedd
Defnyddiwch y wers hon i ddysgu popeth am gynefinoedd. Ble mae anifeiliaid yn byw a pham, a pha greaduriaid all fyw mewn ychydig o lefydd gwahanol. Defnyddiwch y toriadau i annog y plant i osod yr anifeiliaid lle maen nhw’n meddwl eu bod yn byw, a thrafodwch pam y bydden nhw’n byw yno.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Cynefinoedd – Delweddau
Argraffwch y llefydd ac anogwch y plant i osod y creaduriaid yn eu cynefinoedd. Edrychwch ar y gwahanol lefydd a meddyliwch pa greaduriaid fyddai’n byw yno a pham.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Cynefinoedd – Labelau
Argraffwch y labeli. Anogwch y plant i baru’r labeli â’r llefydd, a meddyliwch pam y gosodon nhw y labeli lle gwnaethon nhw.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6

Lawrlwytho Adnoddau Llyfrau

Login to your account