Rydym yn awyddus i gysylltu busnesau ac ysgolion cynradd…

We are looking to connect businesses with primary schools… Find out more

Rydych chi wedi allgofnodi ar hyn o bryd.

neu

eich ysgol i lawrlwytho adnoddau

Antur Fawr Gwyn Gwenyn

Mae Gwyn yn derbyn her y Frenhines Dilia i arwain y gwenyn at gartref newydd. Mae ganddo benderfyniadau mawr i’w gwneud gyda help ei deulu a’i ffrindiau.
Wrth i Gwyn aros i’w adain wella, mae’n dod yn gyfaill i’r Frenhines Dilia – Brenhines cwch gwenyn Coed y Mêl. Mae’n dweud wrth Gwyn bod y cwch gwenyn yn tyfu ac yn fuan bydd angen dod o hyd i gartref newydd, gan wneud lle i Frenhines newydd a haid arall o wenyn gweithgar. Mae’r Frenhines yn ymddiried yn Gwyn ac yn gofyn iddo ei helpu i arwain yr haid at gartref newydd. Nid yw Gwyn yn sicr a yw’n ddigon cryf ar gyfer swydd mor arbennig ac mae’n poeni sut y bydd ei fywyd yn newid os bydd yn symud i ffwrdd o’i deulu. Mae teulu a ffrindiau Gwyn yn ei atgoffa pa mor arbennig ydyw a phaham y dewisodd Y Frenhines ef ar gyfer swydd mor bwysig. Mae Gwyn yn cael ei atgoffa o bwysigrwydd hunan gred ac arddangos sgiliau arwain tra’n helpu i wneud gwahaniaeth mawr.
Gweithgareddau

Gweithgaredd i ddatblygu a dangos sgiliau entrepreneuraidd – rhoi’r dysgu o lyfrau Gwenyn Coed y Mêl a’r adnoddau addysgu atodol ar waith.

Cynlluniau gwersi

Cynllun manwl i gynorthwyo athrawon i gyflwyno gwers sy’n ymroddedig i ddatblygu meddylfryd entrepreneuraidd. Gan dynnu sylw at feysydd dysgu a sgiliau allweddol a astudiwyd, bydd y canllaw gwersi hwn yn nodi’r adnoddau priodol sydd eu hangen ar gyfer gweithgareddau a hefyd opsiynau gwahaniaethu ar gyfer galluoedd amrywiol.

Cyflwyniadau

Cyflwyniad PowerPoint i gefnogi’r ddealltwriaeth o themâu amrywiol a astudiwyd yn llyfrau Gwenyn Coed y Mêl ac atgyfnerthu’r sgiliau sydd eu hangen i ddatblygu meddylfryd entrepreneuraidd.

Opsiynau lawrlwytho

Ar gyfer lawrlwytho diderfyn
a chofrestrmynediad i dderbyn gwybodaeth am Wenyn Coed y Mêl.

Antur Fawr Gwyn Gwenyn Adnoddau Menter

Archwiliwch yr adnoddau gan ddefnyddio’r amryw gategorïau yn dibynnu are eich thema neu’ch deilliannau dysgu dewisol. Gadewch yr hidlydd categori ar ‘POPETH’ os nad oes gennych ddewis penodol neu os hoffech ehangu’r dewis o adnoddau.

Hidlo Adnoddau Llyfrau

Lawrlwytho Adnoddau Llyfrau

Gêm tactegau
Mae’r gêm dacteg hon yn ymwneud â gwaith tîm, cyfathrebu a chymryd risg. Gweithiwch mewn timau bach a dychmygwch eich bod yn un o deulu’r Gwenyn yn casglu’r paill. Eich nod yw gollwng eich peli o baill i mewn i fwcedi gwahanol. Bydd gennych 5 cyfle i daflu’r bêl i un o’r 3 bwced. Mae gan bob bwced werth pwynt gwahanol. Sylwch faint o bwyntiau rydych chi’n eu casglu a phenderfynu pa dactegau y byddwch chi’n eu defnyddio.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Gwerthu hen degan
Os yw’ch plant wedi tyfu allan o rai teganau anogwch nhw i feddwl am ffyrdd o’u gwerthu i wneud arian ar gyfer teganau newydd, neu eu rhoi i rywun nad oes ganddo unrhyw deganau. Ymchwiliwch i’r ffyrdd y gallent werthu eu teganau. Gallech hyd yn oed gynnal eich arwerthiant teganau eich hun gyda theulu a ffrindiau.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Gwerthwyr tai bwystfilod bychain (GI)
Defnyddiwch y templed hwn i greu eich proffil asiant tai cynefin. Meddyliwch am y math o gartref y byddai eich bwystfil bach yn byw ynddo a thynnwch lun o’u cartref. Ticiwch y deunyddiau a fyddai’n cael eu cynnwys yn y cartref bwystfilod bychain.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Gwerthwyr tai bwystfilod bychain (GU)
Defnyddiwch y templed hwn i greu eich proffil asiant tai cynefin. Meddyliwch am y math o gartref y byddai eich bwystfil bach yn byw ynddo a thynnwch lun o’u cartref.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Gwerthwyr tai cynefinoedd
Defnyddiwch y gweithgaredd hwn i edrych ar gynefinoedd yn fwy manwl. Ystyriwch ble mae anifeiliaid yn byw a’r rhesymau pam maen nhw’n byw yno. Bydd y plant yn dewis bwystfil bach sydd wedi tynnu eu sylw ac yn creu proffil ar gyfer gwerthwr tai cynefinoedd bwystfilod bychain.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Gwesty gwenyn
Dangoswch y cyfarwyddiadau ‘Gwneud Gwesty Gwenyn’ i’r plant. Mewn timau bydd y plant yn dylunio ac yn gwneud eu Gwesty Gwenyn eu hunain. Unwaith y bydd eu dyluniad wedi’i gwblhau bydd y tîm yn archwilio’r maes chwarae ac yn penderfynu ble maen nhw’n mynd i adeiladu eu Gwesty Gwenyn.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Gwneud gwesty gwenyn
Defnyddiwch y syniadau hyn i greu, dylunio a gwneud gwenyn eich hun. Byddwch yn greadigol a defnyddiwch beth bynnag sydd gennych gartref. Ymchwiliwch i bwysigrwydd achub y gwenyn a’r amodau gorau iddynt fyw ynddynt.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Gwneud gwesty gwenyn
Dyma rai enghreifftiau a syniadau gwesty gwenyn. Defnyddiwch y dyluniadau hyn i ysbrydoli syniadau’r plant a gwneud iddynt feddwl am yr arddull, addurniadau a deunyddiau sydd eu hangen arnynt i wneud eu gwesty gwenyn eu hunain..
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6

Lawrlwytho Adnoddau Llyfrau

Login to your account