Rydym yn awyddus i gysylltu busnesau ac ysgolion cynradd…

We are looking to connect businesses with primary schools… Find out more

Rydych chi wedi allgofnodi ar hyn o bryd.

neu

eich ysgol i lawrlwytho adnoddau

Antur Fawr Gwyn Gwenyn

Mae Gwyn yn derbyn her y Frenhines Dilia i arwain y gwenyn at gartref newydd. Mae ganddo benderfyniadau mawr i’w gwneud gyda help ei deulu a’i ffrindiau.
Wrth i Gwyn aros i’w adain wella, mae’n dod yn gyfaill i’r Frenhines Dilia – Brenhines cwch gwenyn Coed y Mêl. Mae’n dweud wrth Gwyn bod y cwch gwenyn yn tyfu ac yn fuan bydd angen dod o hyd i gartref newydd, gan wneud lle i Frenhines newydd a haid arall o wenyn gweithgar. Mae’r Frenhines yn ymddiried yn Gwyn ac yn gofyn iddo ei helpu i arwain yr haid at gartref newydd. Nid yw Gwyn yn sicr a yw’n ddigon cryf ar gyfer swydd mor arbennig ac mae’n poeni sut y bydd ei fywyd yn newid os bydd yn symud i ffwrdd o’i deulu. Mae teulu a ffrindiau Gwyn yn ei atgoffa pa mor arbennig ydyw a phaham y dewisodd Y Frenhines ef ar gyfer swydd mor bwysig. Mae Gwyn yn cael ei atgoffa o bwysigrwydd hunan gred ac arddangos sgiliau arwain tra’n helpu i wneud gwahaniaeth mawr.
Gweithgareddau

Gweithgaredd i ddatblygu a dangos sgiliau entrepreneuraidd – rhoi’r dysgu o lyfrau Gwenyn Coed y Mêl a’r adnoddau addysgu atodol ar waith.

Cynlluniau gwersi

Cynllun manwl i gynorthwyo athrawon i gyflwyno gwers sy’n ymroddedig i ddatblygu meddylfryd entrepreneuraidd. Gan dynnu sylw at feysydd dysgu a sgiliau allweddol a astudiwyd, bydd y canllaw gwersi hwn yn nodi’r adnoddau priodol sydd eu hangen ar gyfer gweithgareddau a hefyd opsiynau gwahaniaethu ar gyfer galluoedd amrywiol.

Cyflwyniadau

Cyflwyniad PowerPoint i gefnogi’r ddealltwriaeth o themâu amrywiol a astudiwyd yn llyfrau Gwenyn Coed y Mêl ac atgyfnerthu’r sgiliau sydd eu hangen i ddatblygu meddylfryd entrepreneuraidd.

Opsiynau lawrlwytho

Ar gyfer lawrlwytho diderfyn
a chofrestrmynediad i dderbyn gwybodaeth am Wenyn Coed y Mêl.

Antur Fawr Gwyn Gwenyn Adnoddau Menter

Archwiliwch yr adnoddau gan ddefnyddio’r amryw gategorïau yn dibynnu are eich thema neu’ch deilliannau dysgu dewisol. Gadewch yr hidlydd categori ar ‘POPETH’ os nad oes gennych ddewis penodol neu os hoffech ehangu’r dewis o adnoddau.

Hidlo Adnoddau Llyfrau

Lawrlwytho Adnoddau Llyfrau

Gwneud pyped bys
Lawrlwythwch y cyfarwyddiadau i wneud pyped bys. Byddwch yn greadigol a gwnewch eich pyped gwenyn eich hun, gan ddefnyddio pa ddeunyddiau bynnag sydd gennych yn y tŷ.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Her – Antur Fawr Gwyn
Gwnewch ychydig o waith ymchwil ar yr arlunydd o Gymru, Rhiannon Roberts. Mae hi’n defnyddio lliwiau llachar, ac mae ei chynlluniau lliwgar yn dal tirwedd a bywiogrwydd bywyd Caerdydd. Gan ddefnyddio rhai o’ch hoff ddyluniau ganddi arbrofwch a dyluniwch eich lluniau eich hun yn seiliedig ar dirnod enwog. Yna gellir argraffu eich dyluniadau ar gardiau i chi eu gwerthu.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Llyfr Antur Fawr Gwyn Gwenyn (fideo)
Gwyliwch y recordiad fideo o lyfr stori Antur Fawr Gwyn Gwenyn.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Llyfr Antur Fawr Gwyn Gwenyn (tudalennau)
Chwiliwch am ddelweddau’r holl dudalennau llaw dde fel y gallwch weld Antur Fawr Gwyn Gwenyn ar y sgrîn wen. .
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
My Dream Home – Human Habitats – Presentation

Use the presentation to teach the children about different types of homes. Encourage the children to think about their homes.

Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
My Dream Home – Lesson Plan

Discuss with the children that as well as different creatures, humans live in different habitats too. Some people live in hot countries, some in cold, some in towns and some in cities. Tell the children about these types of homes and get them to design their own dream home.

Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
My Dream Home – My Dream Home Design – Activity 1

Use the template for each of the children to draw and design their dream home. Think about the colours, where it would be, what it is near and what their home is like.

Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Plentyn dyfeisgar
Edrychwch o gwmpas eich cartref a’ch eitemau ailgylchu yr oeddech am eu taflu. Casglwch nhw a’u glanhau, a meddyliwch am yr hyn y gallwch ei ddyfeisio. Defnyddiwch y deunyddiau i greu eich prototeip ar gyfer dyfais newydd.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6

Lawrlwytho Adnoddau Llyfrau

Login to your account