Rydym yn awyddus i gysylltu busnesau ac ysgolion cynradd…

We are looking to connect businesses with primary schools… Find out more

Rydych chi wedi allgofnodi ar hyn o bryd.

neu

eich ysgol i lawrlwytho adnoddau

Ysgol Coed y Mêl

Mae Guto’n helpu ei fam i ddod o hyd i leoliad newydd ar gyfer eu hysgol a ddifrodwyd yn ddiweddar. Mae Guto’n mwynhau ei antur i ddarganfod y lle perffaith ac mae pawb yn Nghoed y Mêl yn falch iawn ohono.
Mae Guto a’i fam yn sylweddoli bod yr ysgol wedi cael ei ddifrodi gan beiriannau torri gwair y ffermwyr. Mae Glenda yn athrawes yn yr ysgol ac mae’n gofyn i Guto ei helpu i ddod o hyd i leoliad newydd ar gyfer yr ysgol. Mae Guto’n awyddus i helpu ac yn meddwl am nodweddion pwysicaf ysgol newydd. Mae’n mentro i ffwrdd o’r cwch gwenyn i ddod o hyd i’r lle perffaith gan obeithio gwneud ei fam yn falch. Wrth ddychwelyd mae’n rhannu straeon am ei anturiaethau gyda’r cwch gwenyn cyfan. Mae Guto’n ysbrydoli’r gwenyn eraill i ddatrys problemau ac i fod yn benderfynol a theimla bod yr holl antur wedi bod yn werth chweil.
Gweithgareddau

Gweithgaredd i ddatblygu a dangos sgiliau entrepreneuraidd – rhoi’r dysgu o lyfrau Gwenyn Coed y Mêl a’r adnoddau addysgu atodol ar waith.

Cynlluniau gwersi

Cynllun manwl i gynorthwyo athrawon i gyflwyno gwers sy’n ymroddedig i ddatblygu meddylfryd entrepreneuraidd. Gan dynnu sylw at feysydd dysgu a sgiliau allweddol a astudiwyd, bydd y canllaw gwersi hwn yn nodi’r adnoddau priodol sydd eu hangen ar gyfer gweithgareddau a hefyd opsiynau gwahaniaethu ar gyfer galluoedd amrywiol.

Cyflwyniadau

Cyflwyniad PowerPoint i gefnogi’r ddealltwriaeth o themâu amrywiol a astudiwyd yn llyfrau Gwenyn Coed y Mêl ac atgyfnerthu’r sgiliau sydd eu hangen i ddatblygu meddylfryd entrepreneuraidd.

Opsiynau lawrlwytho

Ar gyfer lawrlwytho diderfyn
a chofrestrmynediad i dderbyn gwybodaeth am Wenyn Coed y Mêl.

Ysgol Coed y Mêl Adnoddau Menter

Archwiliwch yr adnoddau gan ddefnyddio’r amryw gategorïau yn dibynnu are eich thema neu’ch deilliannau dysgu dewisol. Gadewch yr hidlydd categori ar ‘POPETH’ os nad oes gennych ddewis penodol neu os hoffech ehangu’r dewis o adnoddau.

Hidlo Adnoddau Llyfrau

Lawrlwytho Adnoddau Llyfrau

Dyluniwch gyflwyniad smwddi
Defnyddiwch y cyflwyniad i ddysgu am y camau sydd angen i chi eu cymryd i greu eich smwddi a’ch busnes eich hun, yn union fel Guto. Meddyliwch am yr ymchwil y bydd angen i chi ei wneud, sut y byddwch yn gwneud eich cynnyrch ac yn gwerthuso eich gwaith.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Dyluniwch logo smwddi
Dywedwch wrth y plant ein bod yn mynd i edrych ar sut mae busnesau yn hysbysebu. Cyflwynwch logos a’u hannog i ddylunio’u logos eu hunain ar gyfer eu smwddis.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Dyluniwch smwddi
Dychmygwch Guto’r gwenyn yn adeiladu stondinau lliwgar ar gyfer marchnad Coed y Mêl lle gallai’r gwenyn bach werthu eu cynnyrch cartref. Gosodwch yr her i’r plant ddylunio eu smwddi ffrwythau eu hunain gyda phartner. Bydd angen cynhwysyn arbennig iawn ar eu smwddis - llwyaid o fêl!
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Dyluniwch smwddi (GU)
Eich tasg yw creu a dylunio eich smwddi eich hun. Rhestrwch y cynhwysion a’r offer y bydd eu hangen arnoch a chofiwch ysgrifennu’r dull. Peidiwch ag anghofio ei enwi!
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Dyluniwch smwddi(GI)
Tynnwch lun a labelwch y cynhwysion yr hoffech eu defnyddio yn eich smwddi ffrwythau ac amlinellwch y camau y byddwch yn eu cymryd wrth feddwl am wneud smwddi.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Enghreifftiau smwddi
Edrychwch ar yr enghreifftiau a’u defnyddio fel ysbrydoliaeth ar gyfer eich dyluniadau smwddi eich hun. Meddyliwch am y cynhwysion a’r enw.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Ffrwydrad annisgwl
Gwyliwch fideo o arbrawf gwyddoniaeth. Dilynwch y dull a chrëwch eich arbrawf gwyddoniaeth eich hun gartref. Ymchwiliwch a dysgwch pam y ffrwydrodd y botel lemonêd a pha adwaith ddigwyddodd.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Gêm tactegau
Mae’r gêm dacteg hon yn ymwneud â gwaith tîm, cyfathrebu a chymryd risg. Gweithiwch mewn timau bach a dychmygwch eich bod yn un o deulu’r Gwenyn yn casglu’r paill. Eich nod yw gollwng eich peli o baill i mewn i fwcedi gwahanol. Bydd gennych 5 cyfle i daflu’r bêl i un o’r 3 bwced. Mae gan bob bwced werth pwynt gwahanol. Sylwch faint o bwyntiau rydych chi’n eu casglu a phenderfynu pa dactegau y byddwch chi’n eu defnyddio.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6

Lawrlwytho Adnoddau Llyfrau

Login to your account