Rydym yn awyddus i gysylltu busnesau ac ysgolion cynradd…

We are looking to connect businesses with primary schools… Find out more

Rydych chi wedi allgofnodi ar hyn o bryd.

neu

eich ysgol i lawrlwytho adnoddau

Ysgol Coed y Mêl

Mae Guto’n helpu ei fam i ddod o hyd i leoliad newydd ar gyfer eu hysgol a ddifrodwyd yn ddiweddar. Mae Guto’n mwynhau ei antur i ddarganfod y lle perffaith ac mae pawb yn Nghoed y Mêl yn falch iawn ohono.
Mae Guto a’i fam yn sylweddoli bod yr ysgol wedi cael ei ddifrodi gan beiriannau torri gwair y ffermwyr. Mae Glenda yn athrawes yn yr ysgol ac mae’n gofyn i Guto ei helpu i ddod o hyd i leoliad newydd ar gyfer yr ysgol. Mae Guto’n awyddus i helpu ac yn meddwl am nodweddion pwysicaf ysgol newydd. Mae’n mentro i ffwrdd o’r cwch gwenyn i ddod o hyd i’r lle perffaith gan obeithio gwneud ei fam yn falch. Wrth ddychwelyd mae’n rhannu straeon am ei anturiaethau gyda’r cwch gwenyn cyfan. Mae Guto’n ysbrydoli’r gwenyn eraill i ddatrys problemau ac i fod yn benderfynol a theimla bod yr holl antur wedi bod yn werth chweil.
Gweithgareddau

Gweithgaredd i ddatblygu a dangos sgiliau entrepreneuraidd – rhoi’r dysgu o lyfrau Gwenyn Coed y Mêl a’r adnoddau addysgu atodol ar waith.

Cynlluniau gwersi

Cynllun manwl i gynorthwyo athrawon i gyflwyno gwers sy’n ymroddedig i ddatblygu meddylfryd entrepreneuraidd. Gan dynnu sylw at feysydd dysgu a sgiliau allweddol a astudiwyd, bydd y canllaw gwersi hwn yn nodi’r adnoddau priodol sydd eu hangen ar gyfer gweithgareddau a hefyd opsiynau gwahaniaethu ar gyfer galluoedd amrywiol.

Cyflwyniadau

Cyflwyniad PowerPoint i gefnogi’r ddealltwriaeth o themâu amrywiol a astudiwyd yn llyfrau Gwenyn Coed y Mêl ac atgyfnerthu’r sgiliau sydd eu hangen i ddatblygu meddylfryd entrepreneuraidd.

Opsiynau lawrlwytho

Ar gyfer lawrlwytho diderfyn
a chofrestrmynediad i dderbyn gwybodaeth am Wenyn Coed y Mêl.

Ysgol Coed y Mêl Adnoddau Menter

Archwiliwch yr adnoddau gan ddefnyddio’r amryw gategorïau yn dibynnu are eich thema neu’ch deilliannau dysgu dewisol. Gadewch yr hidlydd categori ar ‘POPETH’ os nad oes gennych ddewis penodol neu os hoffech ehangu’r dewis o adnoddau.

Hidlo Adnoddau Llyfrau

Lawrlwytho Adnoddau Llyfrau

Gwerthu hen degan
Os yw’ch plant wedi tyfu allan o rai teganau anogwch nhw i feddwl am ffyrdd o’u gwerthu i wneud arian ar gyfer teganau newydd, neu eu rhoi i rywun nad oes ganddo unrhyw deganau. Ymchwiliwch i’r ffyrdd y gallent werthu eu teganau. Gallech hyd yn oed gynnal eich arwerthiant teganau eich hun gyda theulu a ffrindiau.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Gwerthusiad smwddi
Y plant i ddilyn eu dyluniadau smwddi o’r wers flaenorol, gan ddefnyddio’u dulliau a’u rhestr o gynhwysion. Beth oedd yn dda a pha welliannau y gellid eu gwneud?
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Gwerthusiad smwddi(GI)
Defnyddiwch y daflen werthuso er mwyn i’r plant egluro beth roedden nhw’n ei hoffi am smwddis eu cyfoedion. Defnyddiwch y blychau ticio i benderfynu a oedd y smwddi yn iach ac a oes unrhyw beth y byddech yn ei newid.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Gwerthusiad smwddi(GU)
Y plant i ddilyn eu dyluniadau smwddi o’r wers flaenorol gan ddefnyddio eu dulliau a’u rhestr o gynhwysion. Crëwch a samplwch smwddis grwpiau eraill, defnyddiwch y taflenni gwerthuso i adolygu prosiectau eich gilydd. Beth oedd yn dda a pha welliannau y gellid eu gwneud?
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Gwneud gwesty gwenyn
Defnyddiwch y syniadau hyn i greu, dylunio a gwneud gwenyn eich hun. Byddwch yn greadigol a defnyddiwch beth bynnag sydd gennych gartref. Ymchwiliwch i bwysigrwydd achub y gwenyn a’r amodau gorau iddynt fyw ynddynt.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Gwneud pyped bys
Lawrlwythwch y cyfarwyddiadau i wneud pyped bys. Byddwch yn greadigol a gwnewch eich pyped gwenyn eich hun, gan ddefnyddio pa ddeunyddiau bynnag sydd gennych yn y tŷ.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Her Gwenyn Coed y Mêl
Gwnewch eich stondin cebab eich hun. Meddyliwch am flas, pris a marchnata eich stondin. Cofiwch weithio fel tîm i ddefnyddio sgiliau pawb.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Honeywood High – Resource Collection

Bobby and his mum Betty find their school has been damaged by the farmers’ machinery cutting back the hedgerow. Betty is a teacher at the school and she asked Bobby to help her find a place for the new bee school. Bobby is keen to help and he thinks about the most important features for a new school. He ventures away from the hive out into the countryside to find the perfect spot – he wants to make his mum, Betty, proud. When he returns, he shares stories of his adventures with the whole hive. Bobby inspires the other bees to be determined, problem solvers and feels that the whole adventure was very rewarding.  

Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6

Lawrlwytho Adnoddau Llyfrau

Login to your account