Caiff heddwch a thangnefedd trigolion Cwch Coed y Mêl eu tarfu pan fydd cacynen gas yn dechrau dwyn eu mêl yn ystod y nos ac amharu ar eu cwsg. Mae Gwyn yn arwain y gwenyn gweithgar i geisio datrys y broblem FAWR yma yn heddychlon. Maen nhw’n penderfynu ceisio helpu’r gacynen gas i newid ei ymddygiad. Maen nhw’n dangos hud cyfeillgarwch iddo a sut y gall bywyd fod llawer hapusach i bawb wrth iddyn nhw weithio gyda’i gilydd fel tîm a bod yn garedig i bawb drwy rannu adnoddau (yn cynnwys mêl melyn melys). Fydd y gacynen yn gweld ei gamgymeriad ac yn sylweddoli a deall hud cyfeillgarwch ac yn dod yn rhan o gymuned Coed y Mêl?