Rydym yn awyddus i gysylltu busnesau ac ysgolion cynradd…

We are looking to connect businesses with primary schools… Find out more

Gwesty Gwenyn

Gwesty Gwenyn Adnoddau menter

Archwiliwch yr adnoddau gan ddefnyddio’r amryw gategorïau yn dibynnu are eich thema neu’ch deilliannau dysgu dewisol. Gadewch yr hidlydd categori ar ‘POPETH’ os nad oes gennych ddewis penodol neu os hoffech ehangu’r dewis o adnoddau.

Hidlo Adnoddau

Lawrlwytho Adnoddau

Beth yw gwesty gwenyn?
Defnyddiwch y cyflwyniad i ddysgu’r plant beth yw gwesty gwenyn, ble rydych chi’n rhoi gwesty gwenyn a sut i wybod a oes gan eich gwesty gwenyn westeion. Bydd hyn yn ysbrydoli’r plant o ran dylunio a gwneud eu gwestai gwenyn eu hunain.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Cyfarwyddiadau gwesty fy ngwenyn
Ar ôl dylunio’r gwesty mewn grwpiau, anogwch bob un o’r plant i feddwl sut y byddan nhw’n gwneud eu dyluniad gwesty. Cofiwch ddefnyddio cyfarwyddiadau clir a meddyliwch beth fydd ei angen arnynt.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Fy nuluniad gwesty gwenyn
Defnyddiwch y daflen hon i annog y plant i ddylunio eu gwesty gwenyn eu hunain. Cofiwch weithio mewn timau a defnyddiwch sgiliau eich gilydd. Peidiwch ag anghofio labelu’r holl ddeunyddiau y bydd eu hangen arnynt i adeiladu eich cartref.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Gwesty gwenyn
Dangoswch y cyfarwyddiadau ‘Gwneud Gwesty Gwenyn’ i’r plant. Mewn timau bydd y plant yn dylunio ac yn gwneud eu Gwesty Gwenyn eu hunain. Unwaith y bydd eu dyluniad wedi’i gwblhau bydd y tîm yn archwilio’r maes chwarae ac yn penderfynu ble maen nhw’n mynd i adeiladu eu Gwesty Gwenyn.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Gwneud gwesty gwenyn
Dyma rai enghreifftiau a syniadau gwesty gwenyn. Defnyddiwch y dyluniadau hyn i ysbrydoli syniadau’r plant a gwneud iddynt feddwl am yr arddull, addurniadau a deunyddiau sydd eu hangen arnynt i wneud eu gwesty gwenyn eu hunain..
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6

Lawrlwytho Adnoddau