Rydym yn awyddus i gysylltu busnesau ac ysgolion cynradd…

We are looking to connect businesses with primary schools… Find out more

Rydych chi wedi allgofnodi ar hyn o bryd.

neu

eich ysgol i lawrlwytho adnoddau

Sgarmes y Cacwn

Mae’r gwenyn yn cydweithio er mwyn goresgyn aflonyddwch yng Nghoed y Mêl a achosir gan nyth o gymdogion swnllyd, cas. Gwaith tîm ar ei orau!
Mae’r cwch gwenyn yn cael ei aflonyddu pan fo nyth cacwn anfoesgar ac anghwrtais yn symud i’r ardal ac yn dechrau bwlio a dwyn mêl. Mae’n rhaid i’r gwenyn weithio gyda’i gilydd i ddatrys y broblem wrth i’r sefyllfa waethygu. Mae Gwyn yn cael ei anafu wrth achub Ger bach oddi wrth y cacwn cas, felly mae’r gwenyn eraill yn gwneud y defnydd gorau o’u hadnoddau eu hunain i’w helpu a gwella’i adain. Mae’r gwenyn yn wynebu sawl sefyllfa anodd yn y stori hon ond yn y pen draw maen nhw’n dod â’r gymuned o wenyn adref yn ddiogel at ei gilydd.
Gweithgareddau

Gweithgaredd i ddatblygu a dangos sgiliau entrepreneuraidd – rhoi’r dysgu o lyfrau Gwenyn Coed y Mêl a’r adnoddau addysgu atodol ar waith.

Cynlluniau gwersi

Cynllun manwl i gynorthwyo athrawon i gyflwyno gwers sy’n ymroddedig i ddatblygu meddylfryd entrepreneuraidd. Gan dynnu sylw at feysydd dysgu a sgiliau allweddol a astudiwyd, bydd y canllaw gwersi hwn yn nodi’r adnoddau priodol sydd eu hangen ar gyfer gweithgareddau a hefyd opsiynau gwahaniaethu ar gyfer galluoedd amrywiol.

Cyflwyniadau

Cyflwyniad PowerPoint i gefnogi’r ddealltwriaeth o themâu amrywiol a astudiwyd yn llyfrau Gwenyn Coed y Mêl ac atgyfnerthu’r sgiliau sydd eu hangen i ddatblygu meddylfryd entrepreneuraidd.

Opsiynau lawrlwytho

Ar gyfer lawrlwytho diderfyn
a chofrestrmynediad i dderbyn gwybodaeth am Wenyn Coed y Mêl.

Sgarmes y Cacwn Adnoddau Menter

Archwiliwch yr adnoddau gan ddefnyddio’r amryw gategorïau yn dibynnu are eich thema neu’ch deilliannau dysgu dewisol. Gadewch yr hidlydd categori ar ‘POPETH’ os nad oes gennych ddewis penodol neu os hoffech ehangu’r dewis o adnoddau.

Hidlo Adnoddau Llyfrau

Lawrlwytho Adnoddau Llyfrau

Templed Cerdd
Gofynnwch y plant i ddarllen y gerdd ‘Does bron dim byd yn fy nychryn i!’ Gofynnwch i’r plant ailysgrifennu’r gerdd, gan newid y geiriau sydd wedi’u tanlinellu i greu eu cerdd ei hun.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Templed Cerdd Rydw i’n ddewr
Defnyddiwch y llythrennnau yn y gair dewrder i ysbrydoli’r plant i ysgrifennu cerdd acrostig eu hunain.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Templed Cerdd ‘rwy’n ddewr’
Defnyddiwch y llythrennnau yn y gair dewr i ysbrydoli’r plant i ysgrifennu cerdd acrostig eu hunain.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Templed fy Ffrind
Defnyddiwch y templed i’r plant feddwl am un o’u ffrindiau. Anogwch nhw i fedddwl am 3 rheswm pam mae’r person hwnnw’n ffrind da iddyn nhw a sut maen nhw’n gwneud iddyn nhw deimlo.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Ysgrifennu cardiau her
Lawrlwythwch ein 10 cerdyn her ysgrifennu. Defnyddiwch y rhain i ysbrydoli eich plant i fod yn greadigol, defnyddio eu sgiliau ysgrifennu a’u dychymyg.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6

Lawrlwytho Adnoddau Llyfrau

1 6 7 8

Login to your account