Datrys problemau

Datrys problemau Adnoddau menter

Archwiliwch yr adnoddau gan ddefnyddio’r amryw gategorïau yn dibynnu are eich thema neu’ch deilliannau dysgu dewisol. Gadewch yr hidlydd categori ar ‘POPETH’ os nad oes gennych ddewis penodol neu os hoffech ehangu’r dewis o adnoddau.

Hidlo Adnoddau Sgiliau

Lawrlwytho Adnoddau Sgiliau

Dyddiadur bwyd (penwythnos)
Heriwch y plant i gwblhau dyddiadur bwyd penwythnos. Gosodwch rai prydau iach a chytbwys, a phan fyddant yn dychwelyd ddydd Llun, gofynnwch os ydynt wedi cadw at at eu cynllun pryd bwyd gyda’u teulu.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Dyddiadur bwyd (wythnosol)
Heriwch y plant i greu dyddiadur bwyd am wythnos gyfan. Anogwch nhw i ddewis prydau iach a chytbwys ac i greu cynllun y gallan nhw gadw ato gartref gyda’u teulu.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Dyfeisio rhywbeth newydd
Anogwch y plentyn i fod yn greadigol a chyfathrebu. Nid gwneud rhywbeth newydd o reidrwydd yw’r dasg hon, ond siarad am rywbeth y mae ganddynt ddiddordeb ynddo. Gofynnwch lawer o gwestiynau a brasluniwch eu syniadau.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Dylunio cwch Nofiol?
Disgyblion i wneud penderfyniadau dylunio er mwyn creu cwch sy'n medru arnofio tra'n dal ceiniogau.
Gweld adnodd
Ages 7 & 8
Dyluniwch Gyflwyniad Smwddi – Cyflwyniad
Defnyddiwch y cyflwyniad i ddysgu am y camau sydd angen i chi eu cymryd i greu eich smwddi a’ch busnes eich hun, yn union fel Guto. Meddyliwch am yr ymchwil y bydd angen i chi ei wneud, sut y byddwch yn gwneud eich cynnyrch ac yn gwerthuso eich gwaith.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Dyluniwch Smwddi – Cynllun Gwers
Dychmygwch Guto’r gwenyn yn adeiladu stondinau lliwgar ar gyfer marchnad Coed y Mêl lle gallai’r gwenyn bach werthu eu cynnyrch cartref. Gosodwch yr her i’r plant ddylunio eu smwddi ffrwythau eu hunain gyda phartner. Bydd angen cynhwysyn arbennig iawn ar eu smwddis - llwyaid o fêl!
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Dyluniwch Smwddi (GI) – Gweithgareddau 2
Tynnwch lun a labelwch y cynhwysion yr hoffech eu defnyddio yn eich smwddi ffrwythau ac amlinellwch y camau y byddwch yn eu cymryd wrth feddwl am wneud smwddi.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Dyluniwch smwddi (GU) – Gweithgareddau 1
Eich tasg yw creu a dylunio eich smwddi eich hun. Rhestrwch y cynhwysion a’r offer y bydd eu hangen arnoch a chofiwch ysgrifennu’r dull. Peidiwch ag anghofio ei enwi!
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6

Lawrlwytho Adnoddau Sgiliau

1 11 12 13 14 15 27