Rydym yn awyddus i gysylltu busnesau ac ysgolion cynradd…

We are looking to connect businesses with primary schools… Find out more

Celfyddydau Mynegiannol

Celfyddydau Mynegiannol Adnoddau menter

Archwiliwch yr adnoddau gan ddefnyddio’r amryw gategorïau yn dibynnu are eich thema neu’ch deilliannau dysgu dewisol. Gadewch yr hidlydd categori ar ‘POPETH’ os nad oes gennych ddewis penodol neu os hoffech ehangu’r dewis o adnoddau.

Hidlo Adnoddau

Lawrlwytho Adnoddau

Fy nghartref delfrydol
Trafodwch gyda’r plant fod bodau dynol yn byw mewn cynefinoedd gwahanol yn ogystal â chreaduriaid gwahanol. Mae rhai pobl yn byw mewn gwledydd poeth, rhai mewn oerfel, rhai mewn trefi a rhai mewn dinasoedd. Dywedwch wrth y plant am y mathau hyn o gartrefi a gofynnwch iddynt ddylunio eu cartref delfrydol eu hunain.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Fy nuluniad cartref delfrydol
Defnyddiwch y templed i bob un o’r plant dynnu llun a dylunio cartref eu breuddwydion. Meddyliwch am y lliwiau, lle byddai, beth sy’n agos a sut le yw eu cartref.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Geiriau Dawns Siglo
Lawrlwythwch y geiriau i Ddawns Siglo Gwen Gwenynen i’w dysgu cyn i chi ddechrau gwneud eich dawns eich hun.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Gwerthu hen degan
Os yw’ch plant wedi tyfu allan o rai teganau anogwch nhw i feddwl am ffyrdd o’u gwerthu i wneud arian ar gyfer teganau newydd, neu eu rhoi i rywun nad oes ganddo unrhyw deganau. Ymchwiliwch i’r ffyrdd y gallent werthu eu teganau. Gallech hyd yn oed gynnal eich arwerthiant teganau eich hun gyda theulu a ffrindiau.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Gwneud gwesty gwenyn
Defnyddiwch y syniadau hyn i greu, dylunio a gwneud gwenyn eich hun. Byddwch yn greadigol a defnyddiwch beth bynnag sydd gennych gartref. Ymchwiliwch i bwysigrwydd achub y gwenyn a’r amodau gorau iddynt fyw ynddynt.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Gwyn a Gwenan yn Achub y Gwenyn – Llyfr Stori

Caiff Ysbyty’r Eos ei sefydlu a’i rhedeg gan Ladi Goch a’i thîm o nyrsys buwch goch gota. Mae’r holl greaduriaid yn gweithio’n galed i sicrhau bod y gwenyn yn ddiogel ac yn iach. Mae Gwyn yn galw ar Gwenan a’r Athro Brynmor i’w helpu i wneud meddyginiaeth newydd i achub y gwenyn.

Gweld adnodd
Ages 7 & 8
Gwyn a Gwenan yn Achub y Gwenyn (fideo)
Gwylio'r recordiad fideo o lyfr Achub y Gwenyn.
Gweld adnodd
Ages 7 & 8
Gwyn a Gwenan yn Achub y Gwenyn (tudalennau)
Dod o hyd i'r darluniau ar y tudalennau llaw dde er mwyn gweld Achub y Gwenyn ar y BGRh.
Gweld adnodd
Ages 7 & 8

Lawrlwytho Adnoddau