Llyfr

Llyfr Adnoddau menter

Archwiliwch yr adnoddau gan ddefnyddio’r amryw gategorïau yn dibynnu are eich thema neu’ch deilliannau dysgu dewisol. Gadewch yr hidlydd categori ar ‘POPETH’ os nad oes gennych ddewis penodol neu os hoffech ehangu’r dewis o adnoddau.

Hidlo Adnoddau

Lawrlwytho Adnoddau

Swydd Newydd Gyffrous Gwyn Gwenynen – Llyfr Stori

Mae’r Frenhines Dilia wedi gofyn i Gwyn fod yn Athro ym Mhrifysgol Coed y Mêl. Nid yw’n sicr os yw’n addas ar gyfer y swydd bwysig hon. Mae’n gofyn i’w deulu os ydyn nhw’n meddwl mai fe yw’r gwenyn gorau ar gyfer y swydd. Dywed wrth y Frenhines Dilia ei fod yn bleser ganddo i dderbyn y swydd a’i fod yn gyffrous i greu moddion newydd i helpu’r holl greaduriaid bach yng Nghoed y Mêl.

Gweld adnodd
Ages 7 & 8
Trolïau i’r Lindys – Llyfr Stori

Mae Gwenan a’i chwiorydd Gwen a Gwenlli yn dylunio trolïau bychain er mwyn helpu’r lindys i gario’r llythyron i’r ysbyty bob dydd.

Gweld adnodd
Ages 7 & 8
Yr Ŵyl Hwyl – Llyfr Stori

Ar ôl blwyddyn ofnadwy gyda phopeth yn mynd o’i le yng Nghoed y Mêl mae’r teulu o wenyn yn penderfynu trefnu gwyl hwylus gyda siglenni, reidiau a stondinau ffair Mae Guto a’i chwiorydd yn ysgrifennu drama, yn creu gwisgoedd ac yn cynnal sioe i ddiddanu holl greaduriaid y cwm.

Gweld adnodd
Ages 7 & 8
Ysgol Coed y Mêl – Llyfr Stori

Mae Guto a’i fam Glenda yn canfod fod peiriant torri gwrych wedi gwneud difrod i Ysgol Coed y Mêl. Mae Glenda’n dysgu yno, ac mae’n gofyn i Guto i’w helpu gyda gwaith pwysig iawn - dod o hyd i le i’r ysgol
wenyn newydd. Mae antur Guto yn ei arwain o’r cwch gwenyn allan i’r wlad. Wedi iddo ddod yn ôl, mae’n adrodd hanes ei anturiaethau wrth holl wenyn y cwch sydd wedi dod i wrando arno. Mae Guto’n ysbrydoli’r gwenyn eraill, ac yn sylweddoli bod yr anturiaethau i gyd wedi ei ysbrydoli o hefyd.

Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6

Lawrlwytho Adnoddau