Llyfr

Llyfr Adnoddau menter

Archwiliwch yr adnoddau gan ddefnyddio’r amryw gategorïau yn dibynnu are eich thema neu’ch deilliannau dysgu dewisol. Gadewch yr hidlydd categori ar ‘POPETH’ os nad oes gennych ddewis penodol neu os hoffech ehangu’r dewis o adnoddau.

Hidlo Adnoddau

Lawrlwytho Adnoddau

Gwenan y Wenynen Ddyfeisgar – Llyfr Stori

Mae Gwenan eisiau ei helpu ac yn mynd i’w gweithdy i greu dyfais a fydd yn helpu Sioni Mawr i neidio’n uchel yn y gwair hir i gadw rheolaeth ar y ceiliogod rhedyn ifainc.

Gweld adnodd
Ages 7 & 8
Gwenyn Coed y Mêl – Llyfr Stori

Mae teulu’r Gwenyn o Goed y Mêl yn byw mewn cwch gwenyn o dan goeden afal. Maen nhw’n rhan o gymuned o greaduriaid yn yr ardal. Heddiw, byddan nhw’n ymweld â neuadd y dref i gael
cyfarfod rhai ohonynt a gwneud ffrindiau newydd. Maen nhw wedi dysgu sgiliau newydd i’w helpu i wneud ffrindiau newydd, ac maen nhw’n ymarfer y rhain yn y digwyddiad. Mae Glenda a Gwilym wedi gwneud cysylltiadau busnes da.

Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Gwyn a Gwenan yn Achub y Gwenyn – Casglu Adnoddau

Caiff Ysbyty’r Eos ei sefydlu a’i rhedeg gan Ladi Goch a’i thîm o nyrsys buwch goch gota. Mae’r holl greaduriaid yn gweithio’n galed i sicrhau bod y gwenyn yn ddiogel ac yn iach. Mae Gwyn yn galw ar Gwenan a’r Athro Brynmor i’w helpu i wneud meddyginiaeth newydd i achub y gwenyn.

Gweld adnodd
Ages 7 & 8
Gwyn a Gwenan yn Achub y Gwenyn – Llyfr Stori

Caiff Ysbyty’r Eos ei sefydlu a’i rhedeg gan Ladi Goch a’i thîm o nyrsys buwch goch gota. Mae’r holl greaduriaid yn gweithio’n galed i sicrhau bod y gwenyn yn ddiogel ac yn iach. Mae Gwyn yn galw ar Gwenan a’r Athro Brynmor i’w helpu i wneud meddyginiaeth newydd i achub y gwenyn.

Gweld adnodd
Ages 7 & 8
Sgarmes y Cacwn – Casglu Adnoddau

Caiff heddwch a thangnefedd trigolion Cwch Coed y Mêl eu tarfu pan fydd cacynen gas yn dechrau dwyn eu mêl yn ystod y nos ac amharu ar eu cwsg. Mae Gwyn yn arwain y gwenyn gweithgar i geisio datrys y broblem FAWR yma yn heddychlon. Maen nhw’n penderfynu ceisio helpu’r gacynen gas i newid ei ymddygiad. Maen nhw’n dangos hud cyfeillgarwch iddo a sut y gall bywyd fod llawer hapusach i bawb wrth iddyn nhw weithio gyda’i gilydd fel tîm a bod yn garedig i bawb drwy rannu adnoddau (yn cynnwys mêl melyn melys). Fydd y gacynen yn gweld ei gamgymeriad ac yn sylweddoli a deall hud cyfeillgarwch ac yn dod yn rhan o gymuned Coed y Mêl?

Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Sgarmes y Cacwn – Llyfr Stori

Mae nyth o gymdogion swnllyd yn symud i mewn ac yn tarfu ar heddwch cwch gwenyn Coed y Mêl. Mae’r gwenyn yn cael eu profi wrth iddyn nhw weithio gyda’i gilydd i ddatrys y broblem sy’n mynd yn fwy o faint ac yn fwy swnllyd bob munud! Mae creadigedd y gwenyn yn eu helpu i edrych ar ôl gwenynen sydd wedi anafu, ac maen nhw’n defnyddio cynnyrch cartref arloesol i wneud iddi deimlo’n well a mendio ei hadain. Mae’r gwenyn yn delio â sawl sefyllfa anodd, ac yn y diwedd yn dod â chymuned y gwenyn adre gyda’i gilydd yn ddiogel.

Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Storm Siwsi – Casglu Adnoddau

Mae storm ofnadwy ar ei ffordd i Goed y Mêl. Mae’r tywydd yn newid a’r gwynt a’r glaw ar fin llifo i gwm Coed y Mêl. Mae’r gwenyn a’r creaduriaid eraill yn gorfod symud eu teuluoedd a’u trysorau i le diogel rhag y storm. Mae Gwenan a Gwilym yn achub y dydd wrth ddylunio ac adeiladu lle diogel i’r holl greaduriaid gysgodi yn ddiogel rhag y storm.

Gweld adnodd
Ages 7 & 8
Storm Siwsi – Llyfr Stori