Dangoswch y cyfarwyddiadau ‘Gwneud Gwesty Gwenyn’ i’r plant. Mewn timau bydd y plant yn dylunio ac yn gwneud eu Gwesty Gwenyn eu hunain. Unwaith y bydd eu dyluniad wedi’i gwblhau bydd y tîm yn archwilio’r maes chwarae ac yn penderfynu ble maen nhw’n mynd i adeiladu eu Gwesty Gwenyn.