Rydym yn awyddus i gysylltu busnesau ac ysgolion cynradd…

We are looking to connect businesses with primary schools… Find out more

Rydych chi wedi allgofnodi ar hyn o bryd.

neu

eich ysgol i lawrlwytho adnoddau

Gwenyn Coed y Mêl

Mae’r teulu o wenyn yn cwrdd â’u cyd-drigolion yn Neuadd Dref Coed y Mêl ac yn mynd ati i rwydweithio.
Mae’r teulu yn byw mewn cwch gwenyn o dan goeden afalau mewn cae lliwgar o flodau gwyllt a phetalau melys. Maent yn rhan o gymuned o greaduriaid sy’n byw ac yn gweithio gyda’i gilydd i greu mêl blasus, diferol. Cawn ein cyflwyno i Glenda a Gwilym a’u plant Gwenan, Guto, Gwen a Gwenlli yr efeilliaid a Ger bach. Mae’r teulu’n mynd ar daith i neuadd y dref lle maen nhw’n cwrdd â chreaduriaid newydd megis sioncod y gwair, lindys, buchod coch cwta, a gweision y neidr. Maent yn sylweddoli bod y creaduriaid eraill yn debyg iddynt; er eu bod yn edrych yn wahanol, mae ganddynt galonnau mawr ac maen nhw’n garedig ac yn gariadus. Maen nhw’n dysgu sgiliau i helpu i gyflwyno eu hunain ac mae Gwilym a Glenda yn gwneud ychydig o rwydweithio sydd yn wych i’w busnes!
Gweithgareddau

Gweithgaredd i ddatblygu a dangos sgiliau entrepreneuraidd – rhoi’r dysgu o lyfrau Gwenyn Coed y Mêl a’r adnoddau addysgu atodol ar waith.

Cynlluniau gwersi

Cynllun manwl i gynorthwyo athrawon i gyflwyno gwers sy’n ymroddedig i ddatblygu meddylfryd entrepreneuraidd. Gan dynnu sylw at feysydd dysgu a sgiliau allweddol a astudiwyd, bydd y canllaw gwersi hwn yn nodi’r adnoddau priodol sydd eu hangen ar gyfer gweithgareddau a hefyd opsiynau gwahaniaethu ar gyfer galluoedd amrywiol.

Cyflwyniadau

Cyflwyniad PowerPoint i gefnogi’r ddealltwriaeth o themâu amrywiol a astudiwyd yn llyfrau Gwenyn Coed y Mêl ac atgyfnerthu’r sgiliau sydd eu hangen i ddatblygu meddylfryd entrepreneuraidd.

Opsiynau lawrlwytho

Ar gyfer lawrlwytho diderfyn
a chofrestrmynediad i dderbyn gwybodaeth am Wenyn Coed y Mêl.

Gwenyn Coed y Mêl Adnoddau Menter

Archwiliwch yr adnoddau gan ddefnyddio’r amryw gategorïau yn dibynnu are eich thema neu’ch deilliannau dysgu dewisol. Gadewch yr hidlydd categori ar ‘POPETH’ os nad oes gennych ddewis penodol neu os hoffech ehangu’r dewis o adnoddau.

Hidlo Adnoddau Llyfrau

Lawrlwytho Adnoddau Llyfrau

Coeden deulu
Defnydiwch y cyflwyniad hyn i ddysgu mwy am deulu Gwenyn Coed y Mêl a sut maent i gyd yn perthyn.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Coeden deulu
Trafodwch yr hyn y gall y plant ei wybod eisoes am deuluoedd. Defnyddiwch deulu’r Gwenyn fel enghraifft i siarad am deulu a pherthnasedd. Yna gall y plant ddefnyddior’r wybodaeth maen nhw wedi’i dysgu a chyfieithu hyn i’w teulu eu hunain.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Coeden deulu’r gwenyn
Defnyddiwch y templed hwn i gynrychioli teulu’r Gwenyn a sut mae’r gwenyn i gyd yn perthyn i’w gilydd. Lawrlwythwch y toriadau o’r holl gymeriadau, torrwch a gludwch nhw yn y drefn byddent yn cael eu gosod ar goeden deulu’r Gwenyn.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Cwis bingo gwenyn
Lawrlwythwch ein cardiau Bingo Sïo Gwenyn. Anogwch y plant i fynd o amgylch y tŷ i ddod o hyd i’r eitemau ar eu cerdyn bingo. Pan fyddant wedi dod o hyd iddynt, ticiwch yr eitem ar eu cerdyn. Sylwch sawl un gallan nhw ei gasglu. Mae’r person cyntaf i gwblhau’r holl flychau yn ennill gwobr.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Datrys problemau cwch gwenyn
Daw Gwenyn Coed y Mêl â phaill a neithdar maent yn eu casglu o’r blodau i’w troi mewn i fêl. Mae Gwenan a Gwenlli wedi herio’r plant i storio’r neithdar i’r diliau mêl mewn cymaint o wahanol ffyrdd.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Datrys problemau cwch gwenyn (GC)
Mae Gwenan a Gwenlli wedi herio’r plant i storio’u 20 bwcedaid o neithdar i 2 dil mêl. Dewch o hyd i gymaint o gyfuniadau â phosib i gwblhau’r her hon.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Datrys problemau cwch gwenyn (GI)
Mae Gwenan a Gwenlli wedi herio’r plant i storio’u 10 bwcedaid o neithdar i 2 dil mêl. Dewch o hyd i gymaint o gyfuniadau â phosib i gwblhau’r her hon.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Datrys problemau cwch gwenyn (GU)
Mae Gwenan a Gwenlli wedi herio’r plant i storio’u 30 bwcedaid o neithdar i 3 dil mêl. Dewch o hyd i gymaint o gyfuniadau â phosib i gwblhau’r her hon.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6

Lawrlwytho Adnoddau Llyfrau

Login to your account