Rydym yn awyddus i gysylltu busnesau ac ysgolion cynradd…

We are looking to connect businesses with primary schools… Find out more

Rydych chi wedi allgofnodi ar hyn o bryd.

neu

eich ysgol i lawrlwytho adnoddau

Gwenyn Coed y Mêl

Mae’r teulu o wenyn yn cwrdd â’u cyd-drigolion yn Neuadd Dref Coed y Mêl ac yn mynd ati i rwydweithio.
Mae’r teulu yn byw mewn cwch gwenyn o dan goeden afalau mewn cae lliwgar o flodau gwyllt a phetalau melys. Maent yn rhan o gymuned o greaduriaid sy’n byw ac yn gweithio gyda’i gilydd i greu mêl blasus, diferol. Cawn ein cyflwyno i Glenda a Gwilym a’u plant Gwenan, Guto, Gwen a Gwenlli yr efeilliaid a Ger bach. Mae’r teulu’n mynd ar daith i neuadd y dref lle maen nhw’n cwrdd â chreaduriaid newydd megis sioncod y gwair, lindys, buchod coch cwta, a gweision y neidr. Maent yn sylweddoli bod y creaduriaid eraill yn debyg iddynt; er eu bod yn edrych yn wahanol, mae ganddynt galonnau mawr ac maen nhw’n garedig ac yn gariadus. Maen nhw’n dysgu sgiliau i helpu i gyflwyno eu hunain ac mae Gwilym a Glenda yn gwneud ychydig o rwydweithio sydd yn wych i’w busnes!
Gweithgareddau

Gweithgaredd i ddatblygu a dangos sgiliau entrepreneuraidd – rhoi’r dysgu o lyfrau Gwenyn Coed y Mêl a’r adnoddau addysgu atodol ar waith.

Cynlluniau gwersi

Cynllun manwl i gynorthwyo athrawon i gyflwyno gwers sy’n ymroddedig i ddatblygu meddylfryd entrepreneuraidd. Gan dynnu sylw at feysydd dysgu a sgiliau allweddol a astudiwyd, bydd y canllaw gwersi hwn yn nodi’r adnoddau priodol sydd eu hangen ar gyfer gweithgareddau a hefyd opsiynau gwahaniaethu ar gyfer galluoedd amrywiol.

Cyflwyniadau

Cyflwyniad PowerPoint i gefnogi’r ddealltwriaeth o themâu amrywiol a astudiwyd yn llyfrau Gwenyn Coed y Mêl ac atgyfnerthu’r sgiliau sydd eu hangen i ddatblygu meddylfryd entrepreneuraidd.

Opsiynau lawrlwytho

Ar gyfer lawrlwytho diderfyn
a chofrestrmynediad i dderbyn gwybodaeth am Wenyn Coed y Mêl.

Gwenyn Coed y Mêl Adnoddau Menter

Archwiliwch yr adnoddau gan ddefnyddio’r amryw gategorïau yn dibynnu are eich thema neu’ch deilliannau dysgu dewisol. Gadewch yr hidlydd categori ar ‘POPETH’ os nad oes gennych ddewis penodol neu os hoffech ehangu’r dewis o adnoddau.

Hidlo Adnoddau Llyfrau

Lawrlwytho Adnoddau Llyfrau

Diagramau trefnu bwystfilod bychain
Ar ôl dysgu ychydig am bob un o’r gwahanol greaduriaid yng Nghoed y Mêl dysgwch am nodwedddion gwahanol pob creadur. Defnyddiwch y templed i’w categoreiddio yn seiliedig ar faint rydych chi’n ei weld.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Diwylliannau byd-eang
Cyflwyniad i gefnogi addysgu plant am ddiwylliannau o amgylch y byd. Cyflwynir pob cyfandir, gan ganolbwyntio ar un maes, eu traddodiadau a’u diwylliannau.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Diwylliannau byd-eang
Dysgwch bopeth am greaduriaid byd-eang. Anogwch y plant i ymchwilio i’r gwahanol fwydydd, diodydd a diwylliannau mewn llefydd lluosog o amgylch y byd.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Dod yn adolygydd ffilm
Penderfynwch ar ffilm i’w gwylio gyda’ch teulu cyfan, gofynnwch i’r plant gwblhau’r templed ac adolygu’r ffilm rydych chi’n penderfynu ei gwylio. Gofynnwch iddyn nhw esbonio llinell y stori, pwy oedd eu hoff gymeriad a beth oedd eu hoff ran.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Dyfeisio rhywbeth newydd
Anogwch y plentyn i fod yn greadigol a chyfathrebu. Nid gwneud rhywbeth newydd o reidrwydd yw’r dasg hon, ond siarad am rywbeth y mae ganddynt ddiddordeb ynddo. Gofynnwch lawer o gwestiynau a brasluniwch eu syniadau.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Ffeiloffaith gwledydd
Defnyddiwch y templed hwn i greu ffeil ffeithiau gwlad. Tra bod y plant yn dysgu am ddiwylliannau o gwmpas y byd, anogwch nhw i weithio fel tîm i lenwi’r ffeil ffeithiau.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Ffrwydrad annisgwl
Gwyliwch fideo o arbrawf gwyddoniaeth. Dilynwch y dull a chrëwch eich arbrawf gwyddoniaeth eich hun gartref. Ymchwiliwch a dysgwch pam y ffrwydrodd y botel lemonêd a pha adwaith ddigwyddodd.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Gêm tactegau
Mae’r gêm dacteg hon yn ymwneud â gwaith tîm, cyfathrebu a chymryd risg. Gweithiwch mewn timau bach a dychmygwch eich bod yn un o deulu’r Gwenyn yn casglu’r paill. Eich nod yw gollwng eich peli o baill i mewn i fwcedi gwahanol. Bydd gennych 5 cyfle i daflu’r bêl i un o’r 3 bwced. Mae gan bob bwced werth pwynt gwahanol. Sylwch faint o bwyntiau rydych chi’n eu casglu a phenderfynu pa dactegau y byddwch chi’n eu defnyddio.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6

Lawrlwytho Adnoddau Llyfrau

Login to your account