Rydym yn awyddus i gysylltu busnesau ac ysgolion cynradd…

We are looking to connect businesses with primary schools… Find out more

Rydych chi wedi allgofnodi ar hyn o bryd.

neu

eich ysgol i lawrlwytho adnoddau

Gwenyn Coed y Mêl

Mae’r teulu o wenyn yn cwrdd â’u cyd-drigolion yn Neuadd Dref Coed y Mêl ac yn mynd ati i rwydweithio.
Mae’r teulu yn byw mewn cwch gwenyn o dan goeden afalau mewn cae lliwgar o flodau gwyllt a phetalau melys. Maent yn rhan o gymuned o greaduriaid sy’n byw ac yn gweithio gyda’i gilydd i greu mêl blasus, diferol. Cawn ein cyflwyno i Glenda a Gwilym a’u plant Gwenan, Guto, Gwen a Gwenlli yr efeilliaid a Ger bach. Mae’r teulu’n mynd ar daith i neuadd y dref lle maen nhw’n cwrdd â chreaduriaid newydd megis sioncod y gwair, lindys, buchod coch cwta, a gweision y neidr. Maent yn sylweddoli bod y creaduriaid eraill yn debyg iddynt; er eu bod yn edrych yn wahanol, mae ganddynt galonnau mawr ac maen nhw’n garedig ac yn gariadus. Maen nhw’n dysgu sgiliau i helpu i gyflwyno eu hunain ac mae Gwilym a Glenda yn gwneud ychydig o rwydweithio sydd yn wych i’w busnes!
Gweithgareddau

Gweithgaredd i ddatblygu a dangos sgiliau entrepreneuraidd – rhoi’r dysgu o lyfrau Gwenyn Coed y Mêl a’r adnoddau addysgu atodol ar waith.

Cynlluniau gwersi

Cynllun manwl i gynorthwyo athrawon i gyflwyno gwers sy’n ymroddedig i ddatblygu meddylfryd entrepreneuraidd. Gan dynnu sylw at feysydd dysgu a sgiliau allweddol a astudiwyd, bydd y canllaw gwersi hwn yn nodi’r adnoddau priodol sydd eu hangen ar gyfer gweithgareddau a hefyd opsiynau gwahaniaethu ar gyfer galluoedd amrywiol.

Cyflwyniadau

Cyflwyniad PowerPoint i gefnogi’r ddealltwriaeth o themâu amrywiol a astudiwyd yn llyfrau Gwenyn Coed y Mêl ac atgyfnerthu’r sgiliau sydd eu hangen i ddatblygu meddylfryd entrepreneuraidd.

Opsiynau lawrlwytho

Ar gyfer lawrlwytho diderfyn
a chofrestrmynediad i dderbyn gwybodaeth am Wenyn Coed y Mêl.

Gwenyn Coed y Mêl Adnoddau Menter

Archwiliwch yr adnoddau gan ddefnyddio’r amryw gategorïau yn dibynnu are eich thema neu’ch deilliannau dysgu dewisol. Gadewch yr hidlydd categori ar ‘POPETH’ os nad oes gennych ddewis penodol neu os hoffech ehangu’r dewis o adnoddau.

Hidlo Adnoddau Llyfrau

Lawrlwytho Adnoddau Llyfrau

Gwenyn Coed y Mêl; Termau Dwyieithog – Eidaleg
Defnyddiwch yr ymadroddion hyn yn llyfr Gwenyn Coed y Mêl i ymgorffori’r Eidaleg ymhob gweithgaredd.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Gwenyn Coed y Mêl; Termau Dwyieithog – Ffrangeg
Defnyddiwch yr ymadroddion hyn yn llyfr Gwenyn Coed y Mêl i ymgorffori’r Ffrangeg ymhob gweithgaredd.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Gwenyn Coed y Mêl; Termau Dwyieithog – Sbaeneg
Defnyddiwch yr ymadroddion hyn yn llyfr Gwenyn Coed y Mêl i ymgorffori’r Sbaeneg ymhob gweithgaredd.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Gwenyn Coed y Mêl; Termau Dwyieithog – Cymraeg
Defnyddiwch yr ymadroddion hyn yn llyfr Gwenyn Coed y Mêl i ymgorffori’r Gymraeg ymhob gweithgaredd.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Gwerthu hen degan
Os yw’ch plant wedi tyfu allan o rai teganau anogwch nhw i feddwl am ffyrdd o’u gwerthu i wneud arian ar gyfer teganau newydd, neu eu rhoi i rywun nad oes ganddo unrhyw deganau. Ymchwiliwch i’r ffyrdd y gallent werthu eu teganau. Gallech hyd yn oed gynnal eich arwerthiant teganau eich hun gyda theulu a ffrindiau.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Gwneud gwesty gwenyn
Defnyddiwch y syniadau hyn i greu, dylunio a gwneud gwenyn eich hun. Byddwch yn greadigol a defnyddiwch beth bynnag sydd gennych gartref. Ymchwiliwch i bwysigrwydd achub y gwenyn a’r amodau gorau iddynt fyw ynddynt.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Gwneud pyped bys
Lawrlwythwch y cyfarwyddiadau i wneud pyped bys. Byddwch yn greadigol a gwnewch eich pyped gwenyn eich hun, gan ddefnyddio pa ddeunyddiau bynnag sydd gennych yn y tŷ.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Her Gwenyn Coed y Mêl
Gwnewch a dyluniwch eich gêm fwrdd ar thema Gwenyn Coed y Mêl. Chwaraewch y gemau mewn grwpiau, gwerthuswch beth aeth yn dda a thrafodwch y sgiliau a ddefnyddiwyd.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6

Lawrlwytho Adnoddau Llyfrau

Login to your account