Mae Gwenan Gwenyn yn deffro i ganfod fod ei ffrindiau, y gwenyn yng nghwch Coed y Mêl, wedi mynd yn sâl ar ôl yfed dŵr budr. Mae Gwenan yn llawn egni, ac yn mynd i chwilio am gyflenwad o ddŵr glân ffres i’r cwch. Mae’n hedfan i ffwrdd ar ei hantur, ac yn cyfarfod ffrindiau newydd ar hyd y ffordd. Mae Gwenan yn dysgu bod partneriaid a ffrindiau yn bwysig, ac wrth gydweithio, gallwch gyflawni llawer mwy na gweithio ar eich pen eich hun.